Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


At sylw holl fasnachwyr Sir y Fflint

Published: 22/04/2024

Cynhelir cyfle cyffrous i fasnachwyr Sir y Fflint arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau yr wythnos nesaf. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wall-Lag (Wales) i gynnal digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yng Ngwesty Beaufort Park, ddydd Mawrth 23 Ebrill rhwng 8am ac 1pm. 

Mae Wall-Lag, prif gontractwr y Cyngor ar gyfer gwaith ynni domestig, yn dymuno ymgysylltu â phob masnachwr lleol o blymwyr, trydanwyr a pheintwyr/ addurnwyr i weithwyr tir, seiri coed, teilswyr a mwy. 

Mae’n rhan o gynllun i ddyrannu gwaith ar gontract i fasnachwyr/ busnesau bach, yn sgil y cynnydd mewn contractau gyda phartneriaid megis Cyngor Sir y Fflint, yn ogystal ag awdurdodau lleol eraill, Clwyd Alyn, Tai Gogledd Cymru a Grwp Cynefin. 

Bydd tîm Datblygu Busnes Sir y Fflint hefyd yn bresennol, yn ogystal â Busnes Cymru a CITB, i gynnig cefnogaeth ac arweiniad rhad ac am ddim i bobl, er mwyn eu helpu i ehangu eu busnesau. 

Meddai Andy Gomm, Rheolwr Gyfarwyddwr Wall-Lag: “Rydym yn edrych ymlaen at gysylltu gyda masnachwyr lleol yn ein digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr a rhannu gwybodaeth am y contractau awdurdod lleol sydd gennym ni. Mae potensial mawr i fasnachwyr lleol ehangu a dod yn rhan o’n cadwyn gyflenwi. Diolch yn fawr iawn i dîm Datblygu Busnes Sir y Fflint am y gefnogaeth arbennig gyda threfnu’r digwyddiad hwn. 

Meddai Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi, Cyngor Sir y Fflint: “Rydym yn falch o gefnogi digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr Wall-Lag. Dyma gyfle gwych i gontractwyr lleol ddysgu am gyfleoedd newydd o ran prosiectau, contractau a’r gadwyn gyflenwi.” 

I ddysgu mwy a chofrestru, ewch i dudalen Eventbrite