Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer Archif Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 24/04/2024

Mae Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn falch iawn o gael clywed yn ddiweddar bod Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu grant o £7.3 miliwn i helpu i ariannu’r gwaith o godi adeilad newydd ar gyfer Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC).

Gyda chyfraniadau cyfatebol o £2m gan Gyngor Sir Ddinbych a £3m gan Gyngor Sir y Fflint, bydd hyn yn caniatáu i AGDdC symud o’r adeiladau presennol yn Rhuthun a Phenarlâg i ddiogelu cofnodion hanesyddol y rhanbarth at y dyfodol mewn adeilad pwrpasol di-garbon net yn yr Wyddgrug. 

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych, “Mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd statudol i gynnal archif, ac nid yw’r cyfleusterau presennol yn addas i’r diben. Gwnaethpwyd y penderfyniad i gymeradwyo’r prosiect mewn egwyddor fis Hydref 2023 gan gymryd i ystyriaeth yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Fel rhan o’r broses, rhoddwyd ystyriaeth i nifer o opsiynau a daethpwyd i’r casgliad nad oedd opsiwn ‘dim cost’ neu ‘cost isel’.

“Mae’r dull cydweithredol hwn o weithio gyda Chyngor Sir y Fflint yn cynnig y gwerth gorau am arian ac yn sicrhau y gallwn fanteisio ar y cyllid o’r Gronfa Dreftadaeth na fyddai efallai ar gael fel arall i sicrhau’r datrysiad hirdymor hwn. Bydd hefyd yn golygu gall ein staff ddarparu gwell gwasanaeth ac ymgysylltu’n well â’r gymuned yng ngogledd Cymru.”

Dywedodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid yn Sir y Fflint, “Bydd y prosiect llwyddiannus, o’r enw ‘Archifau Creadigol’, yn trawsnewid y ffordd y mae AGDdC yn gweithio gan roi mwy o fynediad i gymunedau lleol i’r casgliadau gan hefyd ddarparu cyfleoedd i staff ryngweithio â’r cyhoedd i ddathlu eu hanes personol a chymunedol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen allgymorth a digidol i ehangu mynediad i’r archifau ar draws y rhanbarth a thu hwnt yn ogystal â chreu mwy o leoedd ar gyfer ymchwil, perfformiadau ac arddangosfeydd.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, “Mae prosiectau fel hyn yn amlygu sut y gellir defnyddio cyllid o’r Gronfa Dreftadaeth nid yn unig i warchod ein treftadaeth a’n hanes ond ei droi’n weledigaeth gyffrous a gaiff effaith ar fywydau cenedlaethau'r dyfodol.

“I raddau helaeth, mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ein bod yn gallu mwynhau gweld prosiectau fel yr Archifau Creadigol yn ffynnu a darparu hwb ar gyfer mannau creadigol ac addysgol i gymunedau.”

Mae Carchar Rhuthun a’r Hen Reithordy ym Mhenarlâg wedi bod yn gartref i’r gwasanaeth archif ers blynyddoedd lawer ond bellach nid ydynt yn bodloni disgwyliadau a gofynion rhanddeiliaid nac yn darparu gofod digonol neu addas ar gyfer y casgliadau. Bydd y safle newydd yn helpu i chwyldroi mynediad i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol gan hefyd ddiogelu’r casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd presenolded Archif llai yn parhau yn Rhuthun, a bydd adleoli AGDdC yn rhyddhau gofod yng Ngharchar Rhuthun i ddatblygu profiad gwell er mwyn cynyddu nifer ymwelwyr ac incwm. Disgwylir i'r ganolfan archifau newydd agor ddiwedd 2027.