Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hunan-gyllido i wasanaethau tai
Published: 02/09/2014
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno
hunan-gyllido ar gyfer gwasanaethau tai’r cyngor o fis Ebrill 2015 ymlaen.
Gall y Cyngor gyflawni ei addewid i ddarparu cartref gwell i bob tenant yn Sir
y Fflint erbyn 2020 gan y bydd yn elwa o £1 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn ar
gyfer gwasanaethau tai. Hefyd, bydd modd dechrau adeiladu tai cyngor y mae
gwir eu hangen ledled y Sir.
Mae ein perfformiad a’n dylanwad fel darparwr tai cymdeithasol wedi gwella sy’n
golygu fod Cyngor Sir y Fflint wedi bod mewn sefyllfa i gynorthwyo Llywodraeth
Cymru i ddod i gytundeb ag 11 o gynghorau eraill Cymru sy’n dal i fod yn rhan o
hen drefn gymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai.
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Roeddwn yn
falch o gael bod yn rhan o drafodaethau i ddwyn y cynigion hyn ymlaen. Roedd
system y Cyfrif Refeniw Tai yn cymryd rhenti gan denantiaid ac yn talu’r arian
i Drysorlys y DU a oedd yn golygu fod gan Gyngor Sir y Fflint lai o arian i’w
fuddsoddi yn y stoc dai.’
“Mae cael gwared ar y drefn hon a chreu hunan-gyllido yn golygu y bydd modd i
11 cyngor Cymru, gan gynnwys Sir y Fflint, gadw’r rhenti y maent yn eu casglu,
ac elwa o fwy o ryddid ariannol i wella ac adeiladu mwy o gartrefi.
“Rwy’n hynod falch o allu cadarnhau wrth denantiaid Cyngor Sir y Fflint y bydd
yr holl ymrwymiadau yr ydym wedi’u gwneud i wella cartrefi yn cael eu darparu.
Efallai fod y Cyngor yn wynebu heriau sylweddol gyda’i gyllideb gyffredinol ond
ni fydd hynny’n berthnasol i wasanaeth tai’r cyngor lle mae pob punt o renti’r
tenantiaid yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau i denantiaid y cyngor.”
Meddai’r Cynghorydd Helen Borwn, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Mae hwn yn
newyddion gwych i denantiaid a fydd yn gweld eu cartrefi’n cael eu gwella i
gyrraedd Safonau Ansawdd Tai Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Ar ôl 25 mlynedd,
rydym hefyd yn cael y cyfle i ddechrau adeiladu tai cyngor newydd eto sy’n
ardderchog i drigolion lleol.”