Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gogledd Cymru’n paratoi i groesawu Taith Prydain
Published: 05/09/2014
Mae Sir y Fflint yn barod i groesawu rhai or enwau mwyaf ym myd seiclo ar Ail
Ddiwrnod Taith Prydain Friends Life. Bydd llwybr Cam Dau eleni yn mynd drwy
Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych cyn gorffen yn Llandudno, Conwy ddydd Llun
8 Medi.
Disgwylir i Brif Dimau Tour de France; Team Sky, Omega Pharma Quick-Step,
Movistar a BMC Racing arwain y ffordd. Bydd ugain o dimau yn cystadlu gydag
ymhell dros 100 o feicwyr; gan gynnwys un o sbrintwyr mwyaf blaenllaw’r byd
Mark Cavendish.
Yn ymuno â phencampwr y llynedd, Syr Bradley Wiggins, fel rhan o Dîm Sky, bydd
chwe dyn: Ian Stannard, Ben Swift, Bernhard Eisel, David Lopez a Sebastian
Henao.
Wrth siarad am ras rhif un ar ddeg, dywedodd Syr Bradley Wiggins: “Mae Taith
Prydain yn ras arbennig i mi felly mae cael dychwelyd fel pencampwr y llynedd
yn anrhydedd go iawn.
“Mae bob amser wedi bod yn ras anodd ond maer gefnogaeth a gawn gan y
cefnogwyr yn anhygoel, ac maer daith adref, felly rwyf bob amser wedi mwynhau
ei rasio.
Bu miloedd ar y llwybr drwy Sir y Fflint y llynedd ac mae torfeydd mawr yn sicr
o fod allan eto yn dangos eu cefnogaeth ir beicwyr eleni wrth i’r Daith fynd
drwy ganol tref yr Wyddgrug ac ymlaen i ddiwedd y cam yn Llandudno.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden:
“Mae Taith Prydain Friends Life yn ddigwyddiad cyffrous, proffil uchel a gellir
gweld uchafbwyntiau ar y teledu ledled y byd. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn ar
sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol ac ar-lein yn dod â Sir y Fflint i
sylw cynulleidfa ryngwladol enfawr.
Mae hwn yn gyfle gwych i bobl leol weld y gorau o seiclo rhyngwladol ac rwyf yn
siwr y bydd torfeydd allan yn llu i fwynhau cyffro a gwefr y ras.
Disgwylir ir beicwyr gyrraedd Sir y Fflint am 12.30, gan deithio ar yr A541 o
Gefn y Bedd i Llong yna ymuno â’r B5444 Stryd Wrecsam, Stryd Fawr a Stryd Fawr
Uchaf, Yr Wyddgrug cyn mynd allan o Sir y Fflint ar yr A541 tuag at Lanelwy.
Bydd ffyrdd ar gau ar hyd y llwybr a allai arwain at oedi o tua 15-20 munud.
Bydd y B5444 Stryd Fawr a Stryd Fawr Uchaf ar gau rhwng 10.00 a 13.30.
Nodyn ir Golygydd
Ar gyfer delweddau i’r cyfryngau, ewch i www.flickr.com/thetourcycling