Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyniad Gwarchod y Cyhoedd

Published: 11/09/2014

Ddydd Gwener 5 Medi ymddangosodd Mrs Lynda Payne or Old Smithy, Brynffordd, Treffynnon, Sir y Fflint yn Llys Ynadon yr Wyddgrug wedi ei chyhuddo o dair trosedd mewn cysylltiad â chadw da byw ar dir yn Waen y Brodlas, Brynffordd. Cafwyd Mrs Payne yn euog o’r tri chyhuddiad a ddygwyd gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint mewn perthynas ag achosion o dorri deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid a rheoli clefydau. Cafwyd Mrs Payne yn euog a gorfodwyd hi i dalu dirwy o £300 am fethu gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, dirwy o £150 am fethu dangos cofnodion y gwartheg a gedwir ar ei daliad, a £150 am fethu dangos cofnodion y defaid a gedwir ar y daliad ym Mrynffordd. Ychwanegwyd £50 fel tâl dioddefwr a dyfarnwyd £1000 i gwrdd â chostau’r Cyngor Sir Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Mae diwydiant a chymuned ffermio Sir y Fflint yn rhan allweddol on sir ac mae’r economi leol a diogelu da byw a bywoliaeth yn flaenoriaethau uchel i’r Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i bawb sy’n cadw da byw sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid a sicrhau eu bod yn atal lledaeniad clefydau.