Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymunedau Taclusaf 2014
Published: 19/09/2014
Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf 2014 Sir y Fflint wedi eu
cyhoeddi mewn seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir ddydd Gwener 12 Medi.
Yr enillydd ar gyfer y pentref taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd
Llanfynydd gyda Llanasa yn ail a dyfarnwyd Bretton Lane ac Ysceifiog yn gydradd
drydydd.
Enillodd Caerwys, Higher Kinnerton a Llaneurgain gydradd gyntaf am y gymuned
daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1,000 ac o dan 5,000.
Yr Wyddgrug oedd yr enillydd am ganol y dref taclusaf, daeth Treffynnon yn ail,
ac aeth y drydedd wobr i Fynydd Isa.
Enillydd ystâd yr henoed taclusaf oedd Ochr y Bryn yn Helygain, gyda’r ail wobr
yn mynd i Bennetts Lane yn Higher Kinnerton, Ffordd Gwynedd yn Llaneurgain a
Llys y Goron yng Nghaerwys.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Glenys Diskin, Cadeirydd y
Cyngor, pa mor falch oedd hi gydar brwdfrydedd ar arbenigedd y mae
gwirfoddolwyr wedi eu harddangos eleni:
Dywedodd Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Glenys Diskin:
“Bob blwyddyn, rydym yn gweld bod y safonau yn y Gystadleuaeth Cymunedau
Taclusaf wedi cynyddu. Er bod y tywydd wedi helpu eleni, gan fod diwedd y
gwanwyn yn 2013 yn broblem fawr i bawb, maen dal yn amlwg bod cynigion y
gystadleuaeth yn well nag erioed. Maen rhaid bod hyn wedi bod yn broblem go
iawn i’n beirniaid: Maureen a Fred Gillmore, a Les Starling. Mewn rhai
dosbarthiadau, roedd rhaid ir anrhydeddau gael eu rhannu: er enghraifft, roedd
gennym dair gwobr gyntaf i un dosbarth.
“Ni fyddair gystadleuaeth yn bosibl heb gefnogaeth hael ein noddwyr: Airbus yn
y DU, Cymdeithas Tai Clwyd Alun, Grwp Cynefin, Lindop Bros, Toyota Motor
Manufacturing UK Limited a Warwick Chemicals.
“Diolch yn fawr iddyn nhw, a hefyd in beirniaid am yr amser ar wybodaeth y
maent yn eu cyfrannu.
Maer enillwyr wedi eu rhestru isod.
Adran A - Pentref / Cymuned Taclusaf â llai na 1,000 o boblogaeth
Gwobr gyntaf: Llanfynydd £150
Ail wobr: Llanasa £100
Cydradd drydedd wobr: Bretton Lane £ 50
Ysceifiog £ 50
Adran B - Pentref / Cymuned Taclusaf â dros 1,000 a llai na 5,000 o boblogaeth
Cydradd gyntaf Caerwys £150
Higher Kinnerton £150
Llaneurgain £150
Adran C - Canol Tref Taclusaf (dros 5,000 o boblogaeth)
Gwobr gyntaf: Yr Wyddgrug £150
Ail wobr: Treffynnon £100
Trydedd wobr Mynydd Isa £75
Adran D – Ystâd Henoed Taclusaf
Gwobr gyntaf: Ochr y Bryn, Helygain £100
Cydradd ail wobr: Bennetts Lane, Higher
Kinnerton £50
Ffordd Gwynedd, Llaneurgain £50
Llys y Goron, Caerwys £50
Adran E – Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf
Gwobr gyntaf: Gardd Gymunedol Bryn Gwalia, £150
Yr Wyddgrug
Ail wobr: Chwarel Bryn y Baal £100
Trydedd wobr: Cyfeillion Coed Pen y Maes £75
Maes Glas
Pennawd y Llun: