Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad Fflyd - Cam 3

Published: 19/09/2014

Bydd aelodau o gabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gymeradwyor trydydd cam ar olaf or adolygiad fflyd yn y cyfarfod ddydd Mawrth (16 Medi). Bydd cam olaf y prosiect yn arwain at arbedion ariannol sylweddol pellach ir Cyngor drwy ymgysylltu â phartner allanol i ddarparu holl gerbydaur Cyngor, wrth gadwr gweithgareddau cynnal a chadw yng ngweithdy’r Cyngor ei hun yn nepo Alltami. Bydd y trefniant yn sicrhau ymagwedd gyson at gaffael a chynnal a chadw cerbydau ar draws y Sir, gan sicrhau defnydd cynaliadwy o asedau cerbydau’r Cyngor a gwell rheolaeth strategol or adnoddau hyn a’u gweithrediadau. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Maer trefniant gweithio newydd hwn yn ganlyniad ir ymagwedd gadarnhaol a chydweithredol a gymerwyd gan y tîm rheoli ar gweithlu ac mae’n galluogir Cyngor i gofleidio manteision gweithio mewn partneriaeth heb effeithio ar ddarparu gwasanaethau. “Hoffwn gydnabod yr ymdrechion a wnaed gan y tîm bychan o staff o fewn y gweithdy ac mae eu hymateb ir her wedi caniatáu ir Cyngor ystyried y cam cadarnhaol ymlaen hwn.