Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth i Droseddau Casineb 2014
Published: 13/10/2014
Gweld, Clywed, Riportio” – dyna yw neges Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o
Droseddau Casineb a gynhelir rhwng 11 a 18 Hydref.
Fel rhan o ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir y Fflint,
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint a’i bartneriaid ledled y Gogledd,
wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at broblemau troseddau casineb ac i annog
pobl i roi gwybod i’r heddlu amdanynt.
Caiff y neges ei hysbysebu ar fysiau, gorsafoedd radio cymunedol lleol,
cyfryngau cymdeithasol ac yn ystod digwyddiadau lleol.
Trwy gydol yr wythnos bydd partneriaid o bob cwr o ogledd Cymru yn gweithio
gyda grwpiau lleol a sefydliadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth ac i annog pobl
i roi gwybod am droseddau casineb. Byddant hefyd yn hyrwyddo gwasanaethau
cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol.
Mae troseddau casineb yn droseddau yn erbyn unigolion neu grwpiau o bobl yn
seiliedig ar eu hunaniaeth neu eu gwahaniaethau canfyddedig. Gallant fod yn
weithredoedd treisgar, gmaentelyniaethus neu gamwahaniaethol. Mae’n bosibl y
bydd dioddefwyr yn cael eu bwlio, eu haflonyddu neu eu camdrin oherwydd pwy
ydyn nhw, eu rhywioldeb, eu rhyw, eu crefydd, eu hethnigrwydd neu y ffordd y
maent yn dewis byw. Yn 2013 cafodd 397 achos o droseddau casineb eu hadrodd
wrth yr heddlu ledled gogledd Cymru.
Gall y troseddau fod yn gamdriniaeth lafar, graffiti ymosodol, bygythiadau,
difrod i eiddo, ymosodiadau, bwlio seibr, negeseuon testun, e-bost neu alwadau
ffôn ymosodol. Mae pob un yn annerbyniol ac ni ddylid eu goddef.
Cafodd ffilm fer ei gwneud gan brosiect Achub y Plant ‘Travelling Ahead’ dan y
teitl ‘Young Gypsies and Travellers Talk About Hate Crime’. Cyfrannodd bobl
ifanc o Sir y Fflint at y ffilm gyda chymorth Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Sir
y Fflint a Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint drwy’r grwp merched ITD
(Inspirational Traveller Dimensions).
Maent am ddefnyddio’r ffilm i ddechrau newid agweddau ac edrych beth y gellir
ei wneud yn lleol i sicrhau fod sipsiwn a theithwyr yn cael eu trin yn deg
gyda’r un hawliau a pharch â phob aelod arall o’r gymuned.
Mae’r ffilm eisoes wedi’i dangos yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn Grwp
Seneddol Hollbleidiol San Steffan ac mae wedi cael ei rhannu gan unigolion a
rhwydweithiau cydraddoldeb ledled y DU ac Ewrop – cafwyd adborth gan bobl o bob
cwr o’r byd. Mae Cadeirydd Cymdeithas Genedlaethol Swyddogion Heddlu Sipsiwn,
Roma a Theithwyr wedi gofyn am gael ei defnyddio mewn hyfforddiant ffurfiol ar
gyfer yr heddlu.
Meddai’r grwp merched ‘Inspirational Traveller Dimension’: Roeddem am i bobl
gael gwybod sut ydym yn teimlo pan fyddant yn dweud pethau hiliol wrthym ac yn
ein trin yn wahanol i bobl eraill a rhoddodd y ffilm siawns i ni ddefnyddio ein
lleisiau ein hunain drwy ein geiriau ein hunain.”
Roeddem am ddangos i’r plant eraill sy’n mynd i’r ysgol gyda ni, y bobl sy’n
byw yn ein cymunedau, yr heddlu, ein hathrawon, a phawb hyd at lefel y
llywodraeth cymaint y mae troseddau casineb yn ein brifo, sut yr ydym yn teimlo
a ble mae’n digwydd. Rydym am helpu i ganfod pam ei fod yn digwydd a rhoi
terfyn arno a’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw trwy gael pobl i ddeall fod
troseddau casineb yn digwydd mewn gwirionedd.
Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod o’r Cabinet dros Reoli Corfforaethol:
“Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi codi proffil y mater pwysig hwn.
Rwy’n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn drwy weithio mewn
partneriaeth. Y neges allweddol yw peidiwch â dioddef yn dawel. Os ydych yn
gweld neu glywed rhywbeth, riportiwch o – mae pobl ar gael i helpu. Mae’r
ffilm gan y prosiect Travelling Ahead yn tynnu sylw at effaith troseddau
casineb ar ddioddefwyr ac rwy’n falch iawn fod y grwp ITD wedi cael cyfle i
ddweud eu stori.”
Dylid rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am achosion o droseddau casineb ar 101
(999 mewn achosion brys) neu linell gymorth Cymorth i Ddioddefwyr sydd ar gael
am ddim bob awr o’r dydd ar 0300 30 31 982 neu ar-lein ar wefan
www.reporthate.victimsupport.org.uk