Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwarchodfa Natur Taliesin

Published: 28/10/2014

Mae plant o Ysgol Gynradd Ty Ffynnon wedi helpu ceidwaid Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint trwy blannu bylbiau i adfywio Gwarchodfa Natur Taliesin yn Shotton. Cymerodd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ran yn y sesiwn plannu ar gyfer y prosiect amgylcheddol, sydd y drws nesa i’r ysgol ddydd Llun 13 Hydref fel rhan o brosiect ehangach i adfer y warchodfa natur gan ddefnyddio £16,500 o gyllid Trefi Taclus. Mae Trefi Taclus yn fenter Cadwch Gymrun Daclus a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gefnogir gan awdurdodau lleol i wella amwynder, hygyrchedd, bioamrywiaeth yr ardaloedd sydd wedi mynd âu pen iddo. Mae Ceidwaid a gwirfoddolwyr eisoes wedi creu llwybrau mynediad i bobl anabl a gwella wyneb llwybrau a byddant yn plannu hadau blodau gwyllt a choed, uwchraddio pwyntiau mynediad a chodi cerrig marcio yn y warchodfa natur. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maen wych gweld y disgyblion ysgol yn rhoi eu hamser i brosiect cynaliadwy i helpur amgylchedd. Gall y plant ddysgu cymaint gan y ceidwaid am yr ardal leol a dylent fod yn falch o fod yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am greu lle hyfryd i drigolion ei fwynhau. Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Minshull: “Bydd y bylbiau’n edrych yn wych yn y Gwanwyn a bydd y plant yn gallu cerdded trwodd a gweld arddangosfa wych o flodau i gyd-fynd âr gwaith arall a wnaed ar y warchodfa natur. Da iawn yr holl ddisgyblion wnaeth gymryd rhan. Pennawd llun: Disgyblion Blwyddyn 6 gyda cheidwaid o’r chwith i’r dde Tim Johnson a Kay Ribbons ar Cynghorydd Ann Minshull.