Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cae Hamdden Victoria

Published: 24/10/2014

Mae darn o dir ym Magillt wedi ennill statws nodedig i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Enillodd Cae Hamdden Victoria statws Cae’r Frenhines Elizabeth II gan yr elusen Meysydd Chwarae Cymru, sef y Gymdeithas Caeau Chwarae Cenedlaethol gynt. Mae’n golygu y caiff y tir ei ddiogelu fel safle agored cyhoeddus. Cytunwyd ar weithred rhwng y tirfeddianwyr, Cyngor Sir y Fflint a Meysydd Chwarae Cymru sy’n nodi mai dim ond at ddibenion chwarae, chwaraeon a hamdden y gellir defnyddio’r tir. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros y Strategaeth Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden, a gyflwynodd y plac i’r Cynghorydd  Caradoc Williams, Cadeirydd Cyngor Cymuned Bagillt, ac aelodau o’r cyngor cymuned: “Mae’r elusen wedi diogelu nifer o gaeau chwarae yn Sir y Fflint gyda chymorth y Cyngor a’i bartneriaid. “Mae’n hynod bwysig diogelu mannau gwyrdd y sir ar gyfer hamdden ac er mwyn i blant cael lle i chwarae. Mae hefyd yn golygu bod gan bobl rywle i fynd i fwynhau’r awyr iach ac mae’n fuddiol iawn i iechyd a lles ein pobl.” Ewch i www.fieldsintrust.org i gael rhagor o wybodaeth. O’r chwith i’r dde: aelodau o Gyngor Cymuned Bagillt, y Cynghorydd Sandra Jones, y Cynghorydd Caradoc Williams (Cadeirydd), y Cynghorydd Gerard Hotchkiss, Kevin a’r Cynghorydd Siah Williams.