Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ydych chi’n ystyried dechrau busnes eich hun?
Published: 27/10/2014
Mae Dragons Den Cymru yn ôl ac yn gobeithio denu pobl leol dalentog sydd â
syniadau busnes newydd.
Mae’r cyfle busnes hwn yn rhad ac am ddim i unrhyw un o Sir y Fflint sydd â
syniad, eisiau rheoli cwmni eu hunain neu sydd angen help i gychwyn busnes.
Mae cynrychiolwyr o gwmnïau lleol yn ffurfio panel syn gweithredu fel
mentoriaid ac yn rhoi cymorth a chyngor i bobl syn cyflwyno eu syniadau ar y
diwrnod.
Ar y panel mae Askar Sheibani, Prif Weithredwr Comtek, Christine Sheibani,
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Comtek, Paul Maddocks a arferai bod ynghlwm â
Parkway Telecom, Leyla Edward perchennog KK Fine Foods, Mike Scott o Mike Scott
Associates a Adam Butler o Easy On Line Recruitment
Maer digwyddiad yn un elfen o’r Siop Wybodaeth Mentergarwch dan arweiniad
Cymunedau yn Gyntaf yng Ngholeg Cambria, Cei Connah ar ddydd Gwener 7 Tachwedd
o 10am-2pm.
Bydd busnesau bach sydd wedi cymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Dragons Den’ a
gweithdai Clwb Menter Sir y Fflint o’r blaen wrth law i egluro sut mae
digwyddiadau yn y gorffennol wedi helpu eu busnesau.
Bydd cynrychiolwyr o ddarparwyr addysg, Canolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru,
Busnes Cymru a Chyngor Sir y Fflint yn cynnig cymorth a chyngor ynghyd â
chyfleoedd gwirfoddoli a chyngor gyrfaol.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Dymar pedwerydd digwyddiad Dragons Den a dim ond un or ffyrdd y mae
Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi cymorth ac ymrwymiad i bobl syn dechrau busnes.
“Mae hyn i gyd yn rhan or gwaith ardderchog syn cael ei wneud drwy gyfrwng
Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint a sefydlwyd gan Gyngor Sir y
Fflint i helpu pobl leol chwilio am gyflogaeth addas. Rydym yn awyddus i glywed
gan unrhyw un sydd â syniad, felly dewch draw i fanteisio ar y gefnogaeth sydd
ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod cysylltwch â Cymunedau yn Gyntaf ar 01244
846090 neu anfonwch e-bost at beverly.moseley@flintshire.gov.uk
Nodyn ir Golygydd
Maer rhaglen Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes gan Gyngor Sir y Fflint yn
cynnwys cefnogaeth gan entrepreneuriaid busnes llwyddiannus Sir y Fflint;
aelodaeth o Glwb Menter Sir y Fflint; rhaglen hyfforddi lawn wedi’i hariannu
drwyr rhaglen Dechrau Busnes Cymru; cefnogaeth ychwanegol gan fentoriaid
Dreigiau a Dynamo Sir y Fflint a gweithgareddau ychwanegol ac integredig gan
‘Cymunedau yn Gyntaf’ a phartneriaid eraill.