Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grantiau ar gyfer prosiectau chwaraeon

Published: 27/10/2014

Mae Chwaraeon Sir y Fflint yn annog clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol lleol i wneud cais am gymorth ariannol gan Grant Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru ar gyfer prosiectau chwaraeon cymunedol. Mae hyd at £1,500 ar gael i fudiadau i annog pobl i fod yn fwy egnïol yn amlach. Er mwyn cwrdd â meini prawf y cais rhaid i sefydliad gyflwyno chwaraeon neu weithgarwch corfforol a bod â chyfrif banc. Gall grantiau gael eu defnyddio ar gyfer gweithdai addysg hyfforddi, cymorth cyntaf a diogelu; cit ac offer newydd ar gyfer timau newydd; llogi cyfleusterau ar gyfer timau newydd a chostau hyfforddwr neu hyfforddi. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Gyda phaneli lleol yn penderfynu ar anghenion lleol, mae’r Gist Gymunedol wedi bod ac yn parhau i fod yn llwyddiant ysgubol. “Hoffem weld mwy o glybiau a sefydliadau cymunedol yn manteisio ar y cymorth ariannol sydd ar gael iddynt gydar nod o wella a chynyddur ddarpariaeth ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn Sir y Fflint. Gallai sefydliadau fod yn gymwys i gael £1,500 ychwanegol os yw prosiect wedii anelun benodol at fenywod a merched, yn mynd ir afael ag anghydraddoldeb neu os yw’n ymateb i gyfranogiad ychwanegol a grëwyd gan Gemaur Gymanwlad 2014. Cysylltwch â Gareth Hayes i drafod eich prosiect ar 01352 702465 neu gareth.m.hayes@flintshire.gov.uk neu lawrlwythwch ffurflen gais o www.chwaraeoncymru.org.uk. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 19 Tachwedd.