Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Rhuban Gwyn 2014
Published: 21/11/2014
Ddydd Mawrth 25 Tachwedd, bydd sefydliadau o bob rhan o Sir y Fflint yn ymuno i
ddangos eu cefnogaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn merched drwyr Ymgyrch
Rhuban Gwyn.
Bydd aelodau, swyddogion, preswylwyr lleol ac asiantaethau partner Cyngor Sir y
Fflint yn gwisgo rhubanau gwyn i hybu ymwybyddiaeth or ymgyrch, syn ceisio
dileu pob math o drais yn erbyn merched.
Maer ymgyrch yn gwahodd pobl i addo eu cefnogaeth yn
www.whiteribboncampaign.co.uk
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a
Llysgennad yr Ymgyrch Rhuban Gwyn ar gyfer Sir y Fflint:
“Mae Sir y Fflint yn cefnogir ymgyrch Rhuban Gwyn yn llwyr, a thrwy ein
gweithredoedd, rydym wedi dangos ein bod wedi ymrwymo i atal cam-drin domestig.
Nid yw trais yn erbyn merched byth yn dderbyniol a byddwn yn gwneud popeth o
fewn ein gallu i godi ymwybyddiaeth or mater.”
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Gwarchod y Cyhoedd, Gwastraff
ac Ailgylchu:
“Fel Cyngor rydym yn cefnogi’r achos hwn yn llwyr. Mae gwisgo rhuban gwyn yn
ffordd wych o ddangos cefnogaeth ac yn addewid personol na fyddwch byth yn
cyflawni, goddef neu gadwn dawel am weithredoedd o drais yn erbyn merched.”
Dywedodd Jackie Goundrey, Cydlynydd Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng
Nghyngor Sir y Fflint:
“Maer Cenhedloedd Unedig yn cydnabod yn swyddogol 25 Tachwedd fel Diwrnod
Rhyngwladol i Ddileu Trais yn Erbyn Merched. Maer Rhuban Gwyn yn symbol o
obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw heb ofni trais. Mae gwisgor
rhuban yn herior derbynioldeb o drais - trwy gael dynion i gymryd rhan, helpu
merched i dorrir distawrwydd, ac annog pawb i ddod at ei gilydd i adeiladu byd
gwell i bawb.”
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch âr Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar
01352 702590.
Os ydych yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, cysylltwch âr Llinell
Gymorth Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 80 10 800.