Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Ranbarthol Gofalwyr 

Published: 17/01/2019

Mae Aelodau Cabinet Sir y Fflint wedi ystyried Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gogledd Cymru ac wedi ymrwymo'r Cyngor i ymuno â hi.

Mae’r strategaeth arloesol hon wedi’i datblygu i ymateb i faterion sy’n codi o asesiad gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.   Mae’r Bwrdd hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o gynghorau lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru, Tân ac Achub a’r trydydd sector yn ogystal â gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r Bwrdd yn cydnabod rôl werthfawr gofalwyr ac mae wedi datblygu’r strategaeth ranbarthol hon gyda mewnbwn gan holl sefydliadau â diddordeb.    Mae’n arbennig o bwysig i ddeall a chefnogi anghenion gofalwyr ifanc, fel y gellir teilwra gwasanaethau ar gyfer eu hanghenion penodol. Mae’n edrych ar y byd drwy lygaid gofalwr i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw a beth fydd yn cyfrannu at eu lles a gwelliannau yn eu hamgylchiadau – beth sy’n eu helpu i fod yn ofalwr ac i fyw eu bywyd yn y modd gorau posibl.” 

Mae’n ddealladwy bod cefnogaeth o ansawdd da yn hynod bwysig i’r sawl sy’n derbyn gofal, gan gynnwys cefnogaeth a ddarperir gan sefydliadau trydydd sector, ac mae’n cyfrannu at les gofalwyr hefyd.    Mae gofalwyr hefyd wedi dweud eu bod yn gwerthfawrogi ymgynghori â nhw, cael eu cydnabod a’u parchu.   

Meddai’r Cynghorydd Jones:

“Mae’r dull rhanbarthol hwn wedi arwain at weledigaeth i’n gwasanaethau gofalwyr lle rydym yn cynnwys holl grwpiau gofalwyr wrth wneud penderfyniadau.  Bydd hyn yn caniatáu i ni ddylunio’r gwasanaethau gorau i gefnogi gofalwyr gyda’n gilydd – gwasanaethau mae partneriaid wedi ymrwymo i’w cyflawni.”

Elfen allweddol i Sir y Fflint yw ystyried ein cyfrifoldeb fel prif gyflogwr ynghyd â phartneriaid eraill i nodi gofalwyr o fewn y sefydliad a mabwysiadu polisïau sy’n gyfeillgar i ofalwyr gan gynnwys arferion gweithio'n hyblyg yn rhesymol ac ymarferol.