Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer Achosion Tipio Anghyfreithlon

Published: 17/01/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo'r defnydd o'r ddeddfwriaeth newydd i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig (FPN) ar gyfer troseddau tipio anghyfreithlon lefel isel.

Cost y FPN yw £ 200, gyda gostyngiad o £ 80 ar gyfer talu'n gynnar, yn unol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. 

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae'r Cyngor yn derbyn ac yn ymchwilio tua 1,000 o adroddiadau tipio anghyfreithlon bob blwyddyn.   Mae deddfwriaeth newydd nawr yn rhoi’r grym i awdurdodau lleol ddelio gyda’r digwyddiadau hyn gan ddefnyddio Hysbysiad Cosb Benodedig, fydd yn arbed amser ac arian heb angen casglu tystiolaeth a pharatoi papurau llys.    Mae hefyd yn caniatáu i droseddwyr gael cyfle i osgoi erlyniad.”

Bydd y cyfnod safonol cydnabyddedig o 14 diwrnod ar gyfer taliad yn berthnasol ac awgrymir bod cost gostyngol o £120 yn cael ei gynnig, os telir yr Hysbysiad Cosb Benodedig o fewn 10 diwrnod.   Os bydd y troseddwr yn methu gwneud taliad o fewn y cyfnod rhagnodedig, bydd gweithdrefnau llys yn cael eu cyflwyno.