Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru – Tir Eglwys Sant Andrew, Garden City

Published: 17/01/2019

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo benthyca £1.099 miliwn drwy’r Cyfrif Refeniw Tai i gyfrannu at Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru yn Garden City, Queensferry.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant cyfalaf o £1.1 miliwn drwy’r Rhaglen er mwyn adeiladu deuddeg o fflatiau newydd ar dir Eglwys Sant Andrew, Garden City.  Rhagwelir y bydd y cynllun yn costio £2.199 miliwn, a bydd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo talu’r gweddill drwy ddarparu cyllid ar ffurf benthyciad drwy’r Cyfrif Refeniw Tai.

Meddai Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Fe fydd y datblygiad cyffrous hwn yn rhan o Raglen Strategol Tai ac Adfywio’r Cyngor, ac mae’n ffordd newydd o ddatblygu tai fforddiadwy ar gyfer y Cyngor drwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern sy’n golygu bod modd cwblhau’r cynllun yn gynt ac yn rhatach. O’i gyflawni bydd yno 305 o gartrefi y mae’r Cabinet wedi’u cwblhau neu’u cymeradwyo drwy’r Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio.  

Fe fydd yno ddeuddeg o fflatiau – pedwar ag un ystafell wely ac wyth â dwy ystafell wely – a phob un ohonyn nhw gyda drws ffrynt eu hunain, a bydd y cynllun yn helpu’r Cyngor i fynd i’r afael â nifer o broblemau tai yn y sir. Drwy ddefnyddio dulliau adeiladu newydd mae’r Cyngor, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn mynd ati i godi tai newydd yn gynt ac mewn ffordd fwy blaengar nag o’r blaen.”

Mae’r Cyngor wedi sefydlu Prosiect Lle Gwaith, sy’n bartneriaeth rhwng gwasanaeth Datrysiadau Tai Cyngor Sir y Fflint, Cymunedau am Waith a Chanolfan Byd Gwaith. Nod y prosiect yw darparu tai gyda chymorth a chyfleoedd gwaith i bobl y mae dyletswydd digartrefedd yn ddyledus iddynt ar hyn o bryd. Penodir mentor profiadol i helpu cleientiaid gyda’r broses er mwyn sicrhau eu bod oll yn cymryd rhan mewn rhaglen waith, a bod llwybr addas at waith ar gyfer pob unigolyn.

Dywedodd y Cynghorydd Attridge:

“Mae’n ffordd flaengar iawn o weithio – mae’n fwy na dim ond adeiladu tai, gan y byddwn yn cefnogi pobl i gael gwaith – ac rydym yn bwriadu dechrau adeiladu ddechrau mis Ebrill eleni, ar ôl cael y gymeradwyaeth angenrheidiol.”