Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dydd Sadwrn Busnesau Bach

Published: 24/11/2014

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU, sef ymgyrch genedlaethol i ddathlu ac annog pobl i siopa mewn siopau lleol annibynnol. Anogir siopwyr yn Sir y Fflint i gefnogi eu trefi lleol cyn y Nadolig drwy siopa’n lleol ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr. Mae’r diwrnod yn cael ei alw’n ‘Ddydd Sadwrn Busnesau Bach’ gan ymgyrch genedlaethol anwleidyddol, anfasnachol ar lawr gwlad sy’n tynnu sylw at lwyddiannau busnesau bach ac sy’n annog siopwyr i ‘siopa’n lleol’ a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau. Gall siopau a busnesau bach eraill lawrlwytho poster am ddim oddi ar wefan yr ymgyrch i hyrwyddo’r diwrnod, a hefyd cael cyngor defnyddiol ynglyn â sut i ddenu cwsmeriaid ar y diwrnod - https://smallbusinesssaturdayuk.com/. Yn ogystal ag annog siopwyr i ddefnyddio eu siopau lleol ar ddydd Sadwrn busnesau bach, mae masnachwyr eu hunain yn cael eu hannog hefyd i wneud y gorau o’r diwrnod drwy gynnig gostyngiad, cynnig arbennig neu sampl am ddim i ddenu pobl i mewn i siopa gyda nhw ar y diwrnod. Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd: Rydym yn hynod falch o gael cefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar 6 Rhagfyr. Mae gan sawl tref yn Sir y Fflint nifer o fasnachwyr diddorol ac unigryw sy’n cynnig ystod dda o eitemau ar gyfer pobl sy’n siopa Nadolig a thrwy gydol y flwyddyn. Mae cefnogi masnachwyr annibynnol lleol yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn helpu i greu swyddi lleol hefyd. Dangoswch eich cefnogaeth i’r siopau a’r gwasanaethau hanfodol hyn yng nghanol eich trefi drwy siopa’n lleol a chefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach.”