Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant ar gwrs Arweinwyr Ifanc

Published: 18/01/2019

Young Leaders group shot.JPG

Arweinwyr Ifanc: Shannon Roberts, David Peters, Eboni James, Cerys Lyons, Ryan Hughes, Kaelin Corran, Abby Tudor, Phoebe Woodward, Connor Roberts, Owen Butler

 

 

 

 

 

 

Yn ddiweddar mae Cyngor Sir y Fflint a Phrifysgol Glyndwr Wrecsam wedi bod yn cydweithio er mwyn cynnal y cwrs “Arweinwyr Ifanc” cyntaf. 

Datblygwyd y cwrs gan Ann Roberts, Uwch-reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint, er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg arweinwyr ifanc cymwysedig ar gyfer gwaith darpariaeth ieuenctid y dyfodol. 

Mae Glyndwr wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Sir y Fflint i sicrhau bod y cwrs peilot yn darparu hyfforddiant unigryw i'r holl bobl ifanc sy’n rhan ohono. Roedd y cwrs yn cynnwys pum niwrnod o astudio.  

Cafodd y bobl ifanc eu recriwtio o glybiau ieuenctid lleol a darpariaeth y sector ieuenctid. Roedd yn bwysig iddynt ddangos diddordeb mewn bod yn weithwyr yn y dyfodol a chyflwyno potensial.                  

Dywedodd Ann Roberts:

“Bu’r arweinwyr ifanc yn gweithio ar bynciau amrywiol gan gynnwys gwerthoedd ac egwyddorion Gwaith Ieuenctid, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, cyfleoedd cyfartal, anghenion pobl ifanc a chyfathrebu. Fe wnaethant hefyd gwblhau deg awr wyneb yn wyneb o fewn lleoliad gwaith Darpariaeth Ieuenctid i ennill profiad. Yn ystod eu profiad gwaith, dysgasant sut i gwblhau cynlluniau sesiwn ac asesiadau risg a buont wrthi’n cynllunio a chynnal gweithgaredd i bobl ifanc.” 

Cyflwynodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid dros dro Cyngor Sir y Fflint, Claire Homard, y gwobrau a dywedodd:

“Mae hwn yn llwyddiant arbennig ac yn ddull arloesol i fynd i’r afael â’r angen am arweinwyr ieuenctid cymwysedig yn y dyfodol. Rydym eisiau i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod hwn yn llwybr gyrfaol gwerthfawr a chyffrous. Rwyf yn arbennig o falch ein bod ni wedi gallu blaenoriaethu’r buddsoddiad hwn mewn gwaith ieuenctid, a hynny mewn cyfnod lle mae bob gwasanaeth ar draws y Cyngor, gan gynnwys y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig wedi gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd ariannol sylweddol dros y tair blynedd diwethaf o ganlyniad i’r hinsawdd economaidd heriol. Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn dyfodol Gwasanaethau Ieuenctid yn Sir y Fflint."

Ategodd Uwch-ddarlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol, Hayley Douglas: 

“Mae helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ieuenctid a chymunedol yn ganolog i’r gwaith yr ydym yn ei wneud yma ym Mhrifysgol Glyndwr Wrecsam. Nid yn unig y mae hynny’n cynnwys ein rhaglen gradd a addysgir, ond mae hefyd yn cynnwys prosiectau fel hyn, gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned ac ochr yn ochr â phartneriaid megis Cyngor Sir y Fflint. 

“Mae’r gwaith hwn - sy’n helpu i amddiffyn darpariaeth gwasanaeth ieuenctid mewn ffordd arloesol - wedi profi'n werthfawr i ni fel staff yn ogystal â'r bobl ifanc yr ydym wedi gweithio â hwy, a dylai pob un ohonynt fod yn falch iawn o'u llwyddiannau."

Nawr eu bod nhw wedi cwblhau’r cwrs, caiff y bobl ifanc eu hyfforddi a’u mentora gan swyddogion Darpariaeth Ieuenctid Integredig ac fe'u hanogir i wneud cais am unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol, boed hynny yn wirfoddol neu gyda thâl.