Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas

Published: 22/01/2019

Dathlu a diogelu’r gorffennol heddiw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yfory

Mae cyfleoedd nawr yn bodoli i wneud gwahaniaeth a bod yn rhan o’r fenter gyffrous hon.   Mae’r Ymddiriedolaeth yn dymuno recriwtio tri Ymddiriedolwr ar ei Fwrdd.

Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn safle 70 erw, sy’n ymestyn o ffordd arfordirol yr A548 ym Maes Glas hyd at dref Treffynnon.  Mae’r safle'n adlewyrchu hanes amrywiol a hir yr ardal.  Mae’n cynnwys peth o’r dreftadaeth ddiwydiannol fwyaf sylweddol a chydgysylltiedig yng Ngogledd Cymru ac mae ganddo nifer nodedig o safleoedd hanesyddol, gan gynnwys saith heneb restredig, yn ogystal ag amgueddfa o fewn ei ffiniau. 

Ein gweledigaeth ar gyfer Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yw erbyn 2025 y bydd yn enghraifft ranbarthol o reolaeth treftadaeth ddiwydiannol a naturiol, gan gynnig mynediad agored ar gyfer hamdden a phrofiadau dysgu i bawb.  Bydd yn groesawgar, yn cael ei werthfawrogi a’i fwynhau tra bod ei dreftadaeth yn cael ei ddiogelu a’i fywyd gwyllt yn ffynnu.

Mae Ymddiriedolaeth y Dyffryn yn gwmni cofrestredig ac yn sefydliad elusennol, a sefydlwyd i reoli Dyffryn Maes Glas ar ran Cyngor Sir y Fflint.   Cafodd hyn ei drefnu drwy gytundeb rheoli, er y disgwyliad yw y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gweithio i godi’r refeniw drwy fwy o ymwelwyr a grantiau ac yn dod yn hunangynhaliol dros amser.

Oes gennych ddawn entrepreneuraidd?

A ydych yn weithiwr proffesiynol profiadol o safon uchel gyda golwg fasnachol?

Ydi gofalu am ac amddiffyn y gorffennol yn bwysig i chi ac a allwch roi eich arbenigedd yn ôl i’n cymunedau lleol? 

Allwch chi lywio dyfodol Dyffryn Maes Glas gyda’ch angerdd a’ch egni? 

Ydych chi am fod yn rhan o Ymddiriedolaeth uchelgeisiol, arloesol a deinamig?

Ydych am ymestyn eich profiad presennol neu gael profiad newydd o fod yn aelod o Fwrdd, a fyddai’n helpu  o ran eich datblygiad gyrfa neu ydych am fod ar fwrdd cenedlaethol?

YDYCH? - Mae hwn yn gyfle unigryw ac rydym am glywed gennych chi!

Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb a cheisiadau gan unigolion gyda sgiliau meddwl strategol a chlir, yr uchelgais a’r brwdfrydedd i yrru Dyffryn Maes Glas yn ei flaen, dealltwriaeth a gallu i werthuso materion amgylcheddol, hanesyddol a masnachol, a’r gallu i gyfrannu’n effeithiol fel rhan o dîm gyda syniadau arloesol. 

Yn arbennig, rydym yn croesawu’r rhai sydd â phrofiad proffesiynol mewn meysydd a fydd yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i'n llwyddiant yn y dyfodol, megis: 

Marchnata, cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus, gwerthiannau, twristiaeth

Strategaeth, llywodraethu, cyllid, adnoddau dynol, cyfreithiol, rheoli perfformiad

Codi arian, arian statudol, corfforaethol a dyngarol 

Treftadaeth, amgueddfeydd, atyniadau i ymwelwyr/teuluoedd

Ymgysylltu â’r Gymuned

Mae ein swyddi Bwrdd yn wirfoddol gyda threuliau priodol.  

I drafod y cyfle cyffrous hwn yn bersonol gallwch anfon e-bost gyda’ch manylion cyswllt at info@greenfield.com a gofyn i rywun gysylltu â chi.    

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, dydd Iau 31 Ionawr, 2019.  Cynhelir cyfarfodydd gyda darpar aelodau’r bwrdd wythnos yn dod i ben, dydd Gwener, 15 Chwefror, 2019.

Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas