Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Prosiect Ddoe a Heddiw Talacre

Published: 25/01/2019

 

then.jpgnow.JPGMae hanes ar fin dod yn fyw yn Nhalacre!

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint wedi derbyn nawdd i ddathlu’r newidiadau yn y pentref, o hyfforddiant y Spitfire yn yr Ail Ryfel Byd i ardal gwyliau heddiw, a phopeth rhwng hynny. 

Mae "Talacre Now and Then" wedi derbyn grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri o £30,100. Ychwanegwyd grant o £15,400 o Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i ganolbwyntio ar elfennau Ail Ryfel Byd y prosiect. Yn ychwanegol at hynny, mae elfennau addysgol y prosiect yn cael eu cefnogi gan grant o £2,000 gan brosiect Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru. 

Caiff y prosiect ei gynnal drwy gydol 2019 a bydd yn dathlu’r lle arbennig mae Talacre yn ei gadw yng nghalonnau gymaint o bobl ar draws Gogledd Cymru ac ardal Gogledd-orllewin Lloegr, ac yn edrych ar sut y mae wedi newid o atgofion pobl heddiw. 

Bydd y cyfryngau digidol a thraddodiadol yn helpu pobl leol, ymwelwyr a phlant ysgol i ddychmygu sut roedd yn edrych a sut beth oedd byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â’r degawdau a ddilynodd, pan newidiodd i fod yn gyrchfan gwyliau. 

Mae Talacre’n parhau i fod yn gyrchfan gwyliau poblogaidd heddiw, ac mae’n ardal bwysig ar gyfer byd natur ar raddfa rhyngwladol. 

Roedd Talacre yn lle hollol wahanol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda nifer o faciwîs yn dianc rhag bomiau Lerpwl i aros mewn cytiau syml a adeiladwyd yn y twyni. Gwelwyd a chlywyd y rhyfel o’r awyr uwch eu pennau, gydag ymladd a golygfeydd o fomiau yn disgyn ar Lerpwl dros y dwr. Roedd y twyni ac ardaloedd y traeth yn cael eu defnyddio am hyfforddiant Spitfire, ac mae gweddillion caerau tanddaearol a rhesi o byst llarwydd, wedi’u gosod yn wreiddiol i atal ymosodiad gan yr elyn, i’w gweld hyd heddiw.

O ganlyniad i’r ymarfer targed a’r ymladd uwchben, roedd y traethau’n llawn bwledi a chetris. Mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi casglu’r rhain ac maent yno i’w gweld o hyd.

Roedd sawl un a ddaeth yma yn ystod y Rhyfel yn penderfynu aros yn yr ardal yn hytrach na dychwelyd i weddillion Lerpwl, felly mae cymysgedd ddiwylliannol ddiddorol o Gymru a Lloegr. Ar ôl y Rhyfel, daeth yr ardal yn gyrchfan poblogaidd gyda thwristiaid, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o Lerpwl a Manceinion. Roedd ymwelwyr cynnar yn aros yn y twyni mewn siediau pren, hen fysiau a hen gerbydau trên hyd yn oed. Roedd sawl un o’r ymwelwyr cynnar hyn yn dychwelyd dro ar ôl tro, gan ddod â’u plant gyda nhw, a nawr, eu hwyrion. 

Roedd tymor yr haf yn hir ddisgwyliedig i’r bobl leol hefyd. Roedd pobl ifanc yr ardal yn ennill pres poced drwy gludo bagiau o’r orsaf drenau (sydd wedi cau ers amser maith, bellach) i’r cartrefi gwyliau ac yn mwynhau’r atmosffer bywiog oedd yn cael ei greu gan bobl ar wyliau. 

Bydd y rhain, a gymaint mwy o atgofion yn ganolbwynt i brosiect Talacre "Then and Now" a byddant yn cael eu casglu yn ystod ‘Siop Stori’ yng Nghanolfan Gymunedol Talacre yn ystod gwyliau’r Pasg. Bydd ymwelwyr i’r ‘Siop Stori’ yn gallu mwynhau arddangosfeydd, gan gynnwys hen luniau, mapiau straeon digidol, a gwrthrychau. Bydd yn cynnwys stiwdio recordio hefyd, lle i ofyn cwestiynau a dod â phobl at ei gilydd. Estynnir gwahoddiad i bobl ddod â’u deunyddiau eu hunain, a bydd y cynnwys yn newid ac yn tyfu dros amser. Bydd y deunyddiau sy’n cael eu casglu o’r ‘Siop Stori’ a gwaith ymchwil pellach yn cael eu defnyddio i lunio llyfryn o atgofion a thrywydd digidol. 

Bydd llwybr Ail Ryfel Byd drwy’r twyni yn cael ei greu ynghyd â ffilm CGI (delweddau a gynhyrchwyd gan gyfrifiaduron) yn dangos y Spitifre yn hyfforddi uwchben y twyni yn helpu ymwelwyr i ddeall sut effeithiwyd yr ardal gan gyfnod y rhyfel. Bydd ysgolion lleol yn cael cyfle i ymweld â’r twyni, cwrdd â rhai sy’n ail-fyw’r cyfnod a defnyddio chwarae rôl i ddychmygu sut beth oedd bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 

Bydd uchafbwynt gweithgareddau’r Ail Ryfel Byd yn dod i ben gyda phenwythnos strafagansa Ail Ryfel Byd ar 27 a 28 Gorffennaf, gydag actorion, copi o’r Spitfire, teithiau cerdded tywysedig a gweithgareddau i’r teulu. 

Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas: 

"Mae’n newyddion gwych ein bod wedi cael y grantiau hyn, sy’n ein caniatáu i ddatblygu atyniad twristaidd ac addysgol ar gyfer yr ardal hanesyddol, bwysig hon. Rydw i’n edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen a chroesawu ymwelwyr i’n sir brydferth ni." 

Dywedodd Adrian Hughes, Comodor yr Awyrlu, yn cynrychioli’r Lluoedd Arfog: 

"Mae’r Lluoedd Arfog wedi bod wrth eu boddau yn cefnogi prosiect "Talacre Then and Now". Mae gan yr ardal hon hanes gyfoethog o’r Ail Ryfel Byd, gydag awyrennau Spitfire a Hurricane yn ymladd yn yr awyr uwchben wrth amddiffyn Lerpwl rhag bomiau’r Nazi yn 1941, ynghyd â’r caerau tanddaearol ac amddiffynfeydd a osodwyd ar draeth Talacre yn ystod y cyfnod i amddiffyn ein gwlad rhag ymosodiad.  

"Mae’n wych cael ailadrodd y stori, yn enwedig i genedlaethau newydd, ac mae’r RAF yn edrych ymlaen at ymuno â chi am yr agoriad swyddogol yn ddiweddarach yn yr haf." 

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru:

"Mae prosiect "Talacre Then and Now" yn brosiect arbennig, sy’n dangos yn glir sut y gall treftadaeth leol fod yn gatalydd i lawer o wahanol weithgareddau a dod â phobl at ei gilydd gydag un pwrpas. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn falch o gefnogi Cyngor Sir y Fflint yn ei gynlluniau i recriwtio gwirfoddolwyr o bob oedran, cynnig sgiliau a hyfforddiant, a diolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol, galluogi i bobl fwynhau’r hanes ar eu stepen drws eu hunain. 

"Mae nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn trawsnewid cymunedau ar draws y DU, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol a hirdymor i fywydau pobl; ac mae hyn yn ddiolch i chwaraewyr y Loteri Cenedlaethol." 

Os hoffech chi wirfoddoli ar unrhyw agwedd o’r prosiect neu’n dymuno rhannu eich atgofion o Dalacre, cysylltwch â keystoneheritage.info@gmail.com

Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Kim Norman ar 01745 881237 neu anfonwch neges e-bost at Kim.Norman@external.eni.com.