Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr Teithio Llesol Maes-glas

Published: 29/01/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i sicrhau arian grant gan Lywodraeth Cymru i wella rhwydwaith y llwybrau ym Maes-glas.  

Bwriad y gwelliannau yw i alluogi mwy o bobl i gerdded a beicio i leoedd ar gyfer eu teithiau bob dydd fel i’r ysgol, i’r gwaith ac i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau eraill, gan leihau’r angen am deithiau yn y car. Bydd y cynllun hefyd yn gwella mynediad i Amgueddfa Treftadaeth Dyffryn Maes-glas, sy’n atyniad poblogaidd i ymwelwyr.

Bydd y gwelliannau yn dechrau tua diwedd Chwefror/dechrau Mawrth ac mae disgwyl iddynt barhau am tua 12 wythnos. 

Mae camau pellach o ran gwelliannau wedi eu cynnig dros y ddwy flynedd a hanner nesaf i gysylltu Treffynnon gyda Doc Maes-glas a'r arfordir, yn ddibynnol ar gyllid.  

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae hwn yn brosiect gwych a fydd yn rhoi gwell mynediad cynaliadwy a fforddiadwy i breswylwyr i wasanaethau lleol gan hybu'r cyfleusterau twristiaeth i annog mwy o ymwelwyr i helpu i hybu'r economi leol. Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw gwella lles economaidd, corfforol a meddyliol ac mae Cyngor Sir y Fflint yn ymroddedig i’r amcanion hyn.

“Yn ystod y gwaith bydd angen cau llwybr mewn camau ac rydym yn gobeithio lleihau'r aflonyddwch i ddefnyddwyr.  Rydym yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a achosir yn ystod y gwaith pwysig hwn.”

Dywedodd Maer Tref Treffynnon, Rosetta Dolphin:

“Mae Cyngor Tref Treffynnon yn croesawu’r buddsoddiad hwn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl leol. Mae’r cyngor yn ymroddedig i gysylltu llwybr arfordir Maes-glas gyda'r dyffryn a chanol y dref - amcan allweddol yng nghynllun busnes y cyngor.  Mae’r cyngor yn edrych ymlaen at y datblygu pellach gan gynnwys agor y bont gan ddarparu mynediad i ardal Doc Maes-glas a’r llwybrau arfordir presennol, a chysylltiadau mynediad i’r ardaloedd preswyl yn stadau Pen-y-Maes a’r Strand.”

Dywedodd Gwladys Harrison, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes-glas: 

“Mae Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes-glas wrth ei fodd fod y cyllid hwn wedi ei roi.  Bydd hyn yn gwneud y llwybrau'n hygyrch i bawb, yn arbennig yn ystod y gaeaf, er y bydd yn golygu peth aflonyddwch dros dro. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod yma ac yn mwynhau a gwerthfawrogi’r dreftadaeth wych sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a sydd wedi ei lleoli ar garreg eu drws."