Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymgynghoriad ar Gludiant Ôl-16 i Ysgolion a Cholegau

Published: 18/02/2019

Fel pob Cyngor, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i wynebu heriau ariannol sylweddol sydd wedi cael sylw’n aml. Mae’n rhaid i ni felly fel Cyngor ystyried ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau neu pa unai i barhau â rhai gwasanaethau.

Caiff darpariaeth cludiant ysgolion a cholegau ei arwain gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Yn ôl y Mesur mae rhywfaint o ddarpariaeth cludiant ysgol a cholegau yn statudol, ac mae gan y Cyngor rwymedigaeth gyfreithiol i’w ddarparu, ac mae rhai elfennau’n cael eu darparu yn ôl disgresiwn, ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i’w ddarparu.

Mae’r Cyngor felly yn cyhoeddi ymgynghoriad a fydd yn canolbwyntio ar gludiant ôl-16 i ysgolion a cholegau ac ar hawl i“ fudd-daliadau”.  Ni fydd darpariaeth cludiant statudol yn cael ei effeithio ac nid yw’n ffurfio rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw yng Nghymru, ac mae Awdurdodau Lleol eraill naill ai’n adolygu neu eisoes wedi adolygu elfennau yn ôl disgresiwn eu polisïau cludiant.

Sir y Fflint yw’r unig awdurdod lleol yng Nghymru i gadw'r hawl "budd-daliadau" yn ôl disgresiwn o dan y polisi.

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Mae cludiant ar ôl 16 oed i’r ysgol a’r coleg, a darparu cludiant am ddim drwy’r drefn fudd-daliadau, yn wasanaethau dewisol. Wrth i refeniw’r Cyngor ddal i ostwng yn sylweddol, mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd a meddwl am wahanol ffyrdd o ddarparu ein gwasanaethau.”

Yn y Polisi Cludiant presennol mae’n dweud y darperir cludiant am ddim i fyfyrwyr dros 16 oed yn Sir y Fflint os ydyn nhw’n mynychu eu cwrs llawn amser cyntaf mewn ysgol neu goleg, ar yr amod y bodlonir y maen prawf pellter o dair milltir, a bod y myfyrwyr yn mynd i'r sefydliad addysgol agosaf sy'n cynnig y cyrsiau y maen nhw’n dymuno eu gwneud.  Dim ond i rai safleoedd penodol y darperir cludiant am ddim. Y rhain yw:

  • Pob Ysgol Uwchradd yn Sir y Fflint sy’n cynnig cyrsiau ôl-16
  • Safleoedd Coleg Cambria yng Nghei Connah, Llaneurgain, Wrecsam a Llysfasi (ar gyfer cyrsiau tir yn unig)
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Caer, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Rhyl 6, Ysgol y Santes Ffraid ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy

Ni ddarperir cludiant i sefydliad addysgol nad yw’r un agosaf at gartref y myfyriwr oni bai fod gwahaniaeth sylweddol rhwng y cyrsiau yn y naill sefydliad a'r llall.

Esboniodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r hawl i gludiant am ddim wedi’i roi yn ôl disgresiwn yn unol â’r meini prawf budd-daliadau, ac nid ydym wedi’i adolygu ers 1996. Sir y Fflint yw’r unig gyngor yng Nghymru sy'n dal i ddewis rhoi'r hawl.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n rhaid inni ystyried newid y trefniadau. 

“Dyna pam ein bod yn cynnal yr ymgynghoriad hwn sydd yn cynnwys dewisiadau amrywiol i’w hystyried.  Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ymgynghori cyn dod i unrhyw benderfyniad a mynd ati i gyflwyno polisi newydd.  Rwy’n hyderus y bydd pobl yn barod i drafod gyda’r Cyngor a meddwl am y dewisiadau sy’n cael eu cynnig yn yr ymgynghoriad.”

Dyma'r dewisiadau sy'n destun ymgynghoriad:

Dewisiadau i’w hystyried – Ôl-16

Dewis 1: Cadw pethau’r un fath. Cynnal y ddarpariaeth fel ar hyn o bryd, yn unol â’r Polisi Cludiant presennol. Y gost ar hyn o bryd yw £860,000

Dewis 2: Dechrau codi tâl (mae’r prisiau a gynigir yn amrywio o £50 i £150 y tymor)

Dewis 3: Dechrau codi tâl fel yn Newis 2, ond heb gynnwys dysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim/budd-daliadau

Dewis 4: Rhoi’r gorau i ddarparu cludiant i'r holl fyfyrwyr ôl-16, a’u bod hwythau’n gwneud eu trefniadau eu hunain

Dewis 5: Eithrio ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig o Ddewisiadau 2 a 3

Dewis 6: Eithrio ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd o Ddewisiadau 2 a 3

Dewisiadau i’w hystyried – hawl i fudd-daliadau:

Dewis 1: Cadw pethau’r un fath a pharhau â’r polisi presennol – y gost ar hyn o bryd yw tua £10,000

Dewis 2: Rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth yn llwyr o fis Medi 2020 ymlaen

Dewis 3: Dod â’r ddarpariaeth i ben yn raddol, hynny yw, heb dderbyn unrhyw fyfyrwyr newydd sydd â hawl i fudd-daliadau ar ôl mis Medi 2020 – byddai hynny’n golygu llai o fyfyrwyr yn derbyn budd-daliadau bob blwyddyn, a dim o gwbl erbyn 2023

Mae’r ymgynghoriad ar agor rhwng 18 Chwefror a 5 Ebrill 2019. Gallwch ddarllen yr ymgynghoriad yma ac mae’r ddolen i arolwg yr ymgynghoriad yma.

Petai’r Cabinet yn cymeradwyo newidiadau i’r polisi ar ôl yr ymgynghoriad, mis Medi 2020 yw’r cynharaf y gallent gael eu gweithredu.