Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint y codi baner i anrhydeddu mis hanes LGBT

Published: 18/02/2019

LGBT History Month 06.jpgY mis hwn, mis Chwefror, mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi codi  baner yr enfys y tu allan i Neuadd y Sir i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Yn ymuno ag aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint roedd myfyrwyr o Ysgol Alun yr Wyddgrug sydd wedi bod yn weithredol hyrwyddo cynhwysiad a chydraddoldeb LGBT gan sicrhau ei fod yn rhan o ethos yr ysgol.

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn  rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a llwyddiannau pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a’r symudiad hoyw a hawliau sifil.

Mae hyn hefyd yn adeg i gofio am y camwahaniaethu y mae llawer wedi’i wynebu a’r siwrnai a wnaed tuag at gydraddoldeb LGBT.

 

LGBT History Month 09.jpgDywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol a Phencampwr Diogelu’r Cyngor:

“Mae codi’r faner enfys yn bwysig i’r Cyngor. Mae codi’r faner drwy gydol mis hanes LGBT yn rhoi’r neges glir fod Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb nid yn unig o fewn y Cyngor ond hefyd yn ein cymuned ehangach."

Y thema eleni yw dinasyddiaeth, Hanes II: Heddwch, Cymodiad a Gweithredaeth. Mae thema Hanes II (cafodd Hanes sylw yn flaenorol yn 2015) yn cynnig cyfle i archwilio sut yr ydym wedi cyrraedd lle'r ydym heddiw. Ganrif yn ôl roedd y byd yn dod dros ryfel erchyll ac roedd oedd angen dwys am atebion newydd i hen broblemau. Hanner canrif yn ôl yn dilyn cyrch gan yr heddlu ar far yn Efrog Newydd bu terfysg a aeth ymlaen am ddyddiau ac na allai’r heddlu ei reoli. Y digwyddiadau hyn arweiniodd at ein penderfyniad i edrych unwaith eto yn 2019 ar hanes.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan http://lgbthistorymonth.org.uk/.

LGBT History Month 08.jpg