Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 a Chynllun Busnes

Published: 18/02/2019

Ddydd Mawrth, 19 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo ac argymell cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2019/20 a chrynodeb o Gynllun Busnes 30 mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai i’r Cyngor. 

Mae’r Cynllun Busnes 30 mlynedd Cyfrif Refeniw Tai yn cynnwys y rhaglen adeiladu tai cyngor uchelgeisiol, trwsio a chynnal a chadw cartrefi, gwella’r stoc a gwelliannau amgylcheddol, rheoli cymdogaethau gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am ystadau, casglu incwm a chyfranogiad y cwsmeriaid ar gyfer 7,300 o eiddo’r Cyngor. 

Mae’r Cyngor yn gorfod cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau rhent tai cyngor dros amser, ac mae'r fformiwla ar gyfer gosod rhenti bob blwyddyn hefyd yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r modd mae rhenti yn cael eu cyfrif ar hyn o bryd (Mynegai Prisiau Defnyddwyr “CPI” + 1.5% + hyd at £2 yr wythnos) yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019.  Ar gyfer 2019/20 yn unig, bydd polisi dros dro yn berthnasol fydd yn gweld ymgodiad blynyddol wedi’i osod ar CPI yn unig – e.e. 2.4%.  Hefyd gall Landlordiaid Cymdeithasol ond rhoi “hyd at £2 yr wythnos” os yw’r rhent wythnosol cyfartalog yn is na’u Band Rhent Targed.

Bydd hwn am flwyddyn nes bydd yr Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy a gynhelir gan Lywodraeth Cymru wedi’i gwblhau.

Mae disgwyl i renti garejis gynyddu £1 yr wythnos ac mae cynnig i rent am ddarn o dir ar gyfer garej gynyddu £0.20 yr wythnos.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Mae £22.9 miliwn wedi’i gynnwys yn rhaglen gwella Tai Cyngor ar gyfer 2019/20. Mae’n cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol, addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni a chaffaeliad strategol. 

“Yn ogystal, mae yna £11.3miliwn ar gael ar gyfer cynlluniau adeiladu tai’r Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor yn cael eu hadeiladu yn ystod 2019/20.”