Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol

Published: 18/02/2019

Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Panel Diogelu Corfforaethol pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis, cyn cyhoeddi’r adroddiad hwnnw.

Mae diogelu’n fater i bawb ym mhob gwasanaeth o fewn y Cyngor. Ffurfiwyd y Panel Diogelu Corfforaethol fis Rhagfyr 2015 ac mae’r adroddiad blynyddol yn nodi’r camau a gymerwyd i sicrhau fod gan y Cyngor drefniadau diogelu corfforaethol cadarn ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • darparu hyfforddiant diogelu ar ffurf dramâu i weithwyr ac aelodau etholedig;
  • cyhoeddi Bwletin Diogelu yn rheolaidd i hybu ymwybyddiaeth y gweithwyr o faterion diogelu;
  • cynnwys cymalau ynglyn â diogelu yn amodau a thelerau contractwyr ar gyfer gwasanaethau cludo teithwyr, a mynnu bod gyrwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant diogelu;
  • cynnwys diogelu corfforaethol fel un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2018/19.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Wasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Christine Jones, a’r Aelod Cabinet dros Reoli Corfforaethol ac Asedau, y Cynghorydd Mullin, sydd ill dau’n aelodau o’r Panel Diogelu:

“Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymrwymo i’w gyfrifoldebau ac fel mae’r adroddiad yn ei ddangos, mae wedi cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion. 

“Yn yr adroddiad mae yno hefyd straeon cadarnhaol, gan gynnwys sôn am un o isgontractwyr y Cyngor a gododd bryderon ynglyn â diogelwch plentyn, gan arwain at ymyrraeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r plentyn dan sylw’n byw mewn gofal maeth bellach a’r rhieni’n cael cefnogaeth ac yn meithrin cyswllt â’r gwasanaethau. Dengys hyn mor bwysig yw i bob gweithiwr a chontractwr godi pryderon er mwyn sicrhau bod modd ymchwilio a chymryd camau gweithredu pan mae angen.”

Mae’r camau gweithredu allweddol i’w cwblhau yn 2019 yn cynnwys:

  • Dal i ddarparu hyfforddiant diogelu gydol y Cyngor.
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddiogelu, gan gynnwys caethwasiaeth fodern. 
  • Dal i godi ymwybyddiaeth ynglyn â chamfanteisio, sef thema Wythnos Genedlaethol Diogelu 2018.
  • Cymryd rhan yn Wythnos Genedlaethol Diogelu 2019.