Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Hysbysiadau o Le mewn Ysgol Uwchradd

Published: 19/02/2019

Mae disgwyl i’r Cyngor hysbysu rhieni cyn bo hir o’i ddyraniadau ar gyfer derbyniadau i ysgolion yn barod at flwyddyn academaidd 2019/20.

Mae problem gyda’r system feddalwedd derbyniadau ysgolion wedi golygu bod cynigion am leoedd mewn ysgolion uwchradd wedi cael eu e-bostio at rai rhieni cyn eraill, a chyn y dyddiad a gynlluniwyd sef 1 Mawrth.  Mae'r wybodaeth yn y llythyr i'r rhieni hyn yn gywir.

Mae’r Cyngor wedi gweithredu i sicrhau y bydd e-bost yn cael ei anfon at bawb sydd wedi gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd gyda chanlyniad eu cais erbyn diwedd y dydd heddiw.

Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra neu bryder a achoswyd ar ôl i rai ymgeiswyr gael eu canlyniadau cyn eraill.

Nid yw’r mater hwn yn effeithio ar weddill yr amserlen sydd wedi’i chyhoeddi ar gyfer derbyniadau ysgolion.