Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofyn am eich barn ar gynigion rheoli traffig a lonydd bws newydd

Published: 27/02/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer datrysiad trafnidiaeth integredig ac mae wedi datblygu nifer o fesurau i oresgyn y cynnydd mewn traffig ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a’r ardaloedd cyfagos.

Mae’r mesurau hyn hefyd yn cefnogi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro Gogledd Ddwyrain Cymru fydd yn bwysig i gysylltu pobl, cymunedau a busnesau ar gyfer swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau ar draws y rhanbarth. 

Bydd Metro Gogledd Ddwyrain Cymru yn darparu canolbwynt trafnidiaeth integredig o fudd i deithwyr a busnesau o fewn Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, y Parth Menter ehangach a thu hwnt. 

Mae cam nesaf y cynllun yn canolbwyntio ar lonydd bws arfaethedig ar hyd y B5129 o Queensferry i Lôn Shotton a mesurau arbed amser siwrnai o Shotton i Gei Connah.    

Mae’r Cyngor yn gofyn am eich barn ar y mesurau arbed amser teithio hyn a lonydd bws a beicio dynodedig ar hyd y B5129 yn ymestyn o Queensferry i Gei Connah.    

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 27 Chwefror hyd at hanner nos ar ddydd Gwener, 22 Mawrth.

Rydym yn cynnal y digwyddiadau gwybodaeth i'r cyhoedd canlynol lle gallwch weld gwybodaeth bellach am y cynllun arfaethedig. Gallwch gwrdd â’n tîm prosiect fydd yn ateb unrhyw gwestiynau gennych. 

Dydd Mawrth 5 Mawrth 11:00 - 20:00

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - Chester Road West, Queensferry CH5 1SA

Dydd Mercher 6 Mawrth 11:00 - 20:00

Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy - Chester Road West, Queensferry CH5 1SA

Dydd Llun 11 Mawrth 16:00 - 19:30

Ysgol Croes Atti, Plymouth Street, Shotton, Glannau Dyfrdwy CH5 1JD

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

 “Rydw i’n falch iawn ein bod yn bwrw ‘mlaen gyda gweledigaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir y Fflint a Gogledd Cymru, i gysylltu pobl gyda’r ardal waith pwysig hon. Rwy’n annog pawb i gyfrannu a dweud eu dweud ar y datblygiad pwysig iawn ar gyfer ein hardal. Bydd y cynllun cyffredinol yn integreiddio pob dull trafnidiaeth i annog gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar.”

Gallwch weld y ddogfen ymgynghori yn: http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/B5129-%E2%80%93-Shotton-and-Queensferry-Journey-Time-Savings-and-Proposed-Bus-Lanes.aspx  (print bras, braille ac iaith arall o’r ddogfen hon ar gael ar gais drwy anfon e-bost at lee.shone@flintshire.gov.uk, rhowch “B5129 – cynigion mesurau traffig” fel pennawd.

Er mwyn ymateb, llenwch yr arolwg ymateb ar-lein yma neu llenwch gopi papur a’i ddychwelyd i’r cyfeiriad/e-bost a restrwyd.