Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwirfoddolwyr yn cynorthwyo cynghorau yn ystod argyfyngau

Published: 28/02/2019

Mae gwirfoddolwyr sy’n gyrru cerbydau 4x4 o elusen Gymreig wedi ymuno â’r cynghorau ar draws gogledd Cymru er mwyn cynorthwyo â chludiant ar fyr rybudd yn ystod tywydd garw. 

Mae Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru wedi llofnodi cytundeb newydd â 4x4 Response Wales, a bydd eu gwirfoddolwyr yn helpu i gefnogi ymateb cynghorau gogledd Cymru i ddigwyddiadau sylweddol megis llifogydd ac eira trwm.  Gall y cymorth hwn gynnwys mynd â staff allweddol i’w gwaith; dosbarthu nwyddau megis bwyd a meddyginiaeth i bobl mewn ardaloedd gwledig; neu ddarparu cludiant i staff y cyngor megis gofalwyr sydd angen teithio o amgylch y rhanbarth i wneud eu gwaith yn ystod tywydd garw ac yn ystod argyfyngau. 

Dywedodd Neil Culff, Rheolwr Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng: 

“Mae’r Tîm 4x4 Response Wales yn darparu gwytnwch ychwanegol gwerthfawr o gerbydau arbenigol a gweithredwyr cymwys i wasanaethau’r cyngor. Mae’r adnodd hwn yn ein galluogi i gynnal ein gwasanaethau hanfodol pan fyddwn yn cael problemau o ganlyniad i amodau tywydd garw, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig. 

“Mae’n rhaid i ni bwysleisio na fydd 4x4 Response Wales yn cymryd lle cerbydau a gwasanaethau presennol, ond yn hytrach byddant yn eu cyflenwi mewn cyfnodau prysur pan fydd adnoddau’n brin."

Tom leading a group out.jpg

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 

“Fel y sefydliad sy’n cynnal y gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng, rwy’n falch iawn ein bod yn defnyddio dull cydweithredol yn y cytundeb sy’n cyflwyno sut y gall Awdurdodau Lleol weithio â’i gilydd i baratoi ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a defnyddio adnoddau’n ddoeth.  Mae hwn yn adnodd gwych sydd ar gael i ni ac mae'r chwe Chyngor yn ddiolchgar tu hwnt i 4X4Response Wales am eu cefnogaeth barhaol."

Meddai Mark Margetts, ymddiriedolwr yn 4X4 Response Wales: 

“Drwy gydol y cytundeb hwn, rydym yn falch ein bod yn gallu darparu cefnogaeth gyda’n rhwydwaith eang o yrwyr gwirfoddol a’u cerbydau er mwyn cynorthwyo cymunedau gogledd Cymru pan fo angen.”

Mae 4x4 Response Wales yn elusen sy’n darparu hyfforddiant rheolaidd ac yn asesu ymatebwyr a'u cerbydau er mwyn sicrhau eu bod yn gymwys i allu rhoi cymorth a chefnogaeth yn ddiogel a sicrhau eu bod nhw ar gael ar draws Cymru pan fo angen. Mae’r sefydliad Cymreig yn rhan o rwydwaith genedlaethol 4x4 Response Network,  ble mae aelodau’n cytuno i ymateb mewn achosion o dywydd garw, llifogydd, neu unrhyw argyfwng arall. 

Mewn argyfwng, bydd swyddogion yn cysylltu â chydlynwyr yr elusen a fydd wedyn yn darparu'r gwirfoddolwyr. 

Os hoffech wybodaeth bellach neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a gwirfoddoli gyda Thîm 4x4 Response Wales, cysylltwch â Martin Bailey ar 01745 592551 neu 07974 396699. Gallwch hefyd ymweld â’u gwefan ar http://www.4x4responsewales.org/

Nodyn i olygyddion

Mae’r llun ynghlwm yn dangos Tom Davies, aelod o dîm ymateb 4x4 Gogledd Cymru yn arwain grwp hyfforddi Ymatebwyr yn Llanfyllin ym mis Rhagfyr 2018 (cafwyd y llun drwy garedigrwydd Paul Stubbings).