Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyfodol diwrnod anableddau dysgu a gwasanaethau gwaith yn edrych yn obeithiol

Published: 07/03/2019

HFT Glanrafon 02.jpg

Mae gwasanaeth y Ganolfan Ddydd Anableddau Dysgu Cyngor Sir y Fflint yn darparu gweithgareddau ystyrlon yn ystod y dydd, mewn amgylcheddau canolfan ddydd a gwaith, i dros 250 o unigolion ag anableddau dysgu.  

Partner y Cyngor wrth ddarparu’r gwasanaeth hwn yw Hft, elusen genedlaethol sydd yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu.  Mae Hft yn rhannu gweledigaeth glir y Cyngor i drawsnewid y gwasanaethau pwysig a gwerthfawr hyn, ac mae ganddi llwyddiant blaenorol o ddarpariaeth gwasanaeth.   Mae'r elusen wedi bod yn creu sgiliau, arbenigedd a phrofiad newydd i'r gwasanaeth ac yn gyrru newid cadarnhaol mewn diwylliant. Hefyd, mae mentrau codi arian a chyfleoedd effeithlonrwydd cost yn cael eu hagor.

Ar ymweliad diweddar i’r gwasanaeth, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r model hwn ar gyfer gwasanaethau yn gweithio’n dda iawn ac wedi ei ddatblygu ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth, aelodau’r teulu, staff, undebau llafur a gwasanaethau eirioli annibynnol – cafodd safbwyntiau pawb eu hystyried.  Mae’r gwasanaeth ar hyn o bryd yn cynnwys Canolfan Ddydd sydd yn gweithredu yn ein cyfleuster Glanrafon yn Queensferry, ond bydd yn symud i gyfleuster newydd modern gwerth £4miliwn, “Hwb Cyfle” sydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd a bydd yn agor yn yr haf.   Mae adeiladu’r cyfleuster newydd hwn yn ail-gadarnhau ymrwymiad y Cyngor i wasanaethau o ansawdd, buddsoddi arian i wasanaethau hanfodol, er yr anawsterau ariannol cyfredol y mae pob awdurdod lleol yn eu hwynebu.”    

HFT Glanrafon 04.jpgDywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: 

“Roedd yn wych cael ymweld a gweld dros fy hun y model gwasanaeth newydd sydd wedi’i gyflwyno yng nghanolfan ddydd Glanrafon, gan alluogi dull gweithgaredd sydd wedi gwella rhyngweithio cymdeithasol yn sylweddol i bobl a gefnogir yn y ganolfan. 

"Fel y disgwyliwyd, mae Sir y Fflint yn manteisio ar arbenigedd sefydliadol gan Hft, ac rwy’n falch iawn bod cyllideb y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yn ein galluogi i barhau â’n hymrwymiad i ddarparu gofal dydd i bobl ag anableddau dysgu a’r ganolfan newydd £4miliwn, sydd yn cael ei ddatblygu, yn dangos bod ymrwymiad unigryw'r Cyngor yn gosod y Cyngor ar wahân i nifer o Gynghorau eraill ar draws y DU."

Mae’r model newydd hefyd yn cefnogi ffocws ar ddod o hyd i wirfoddolwyr neu rolau a delir i bobl a gefnogir.  Mae Hft hefyd yn adolygu holl leoliadau gwaith presennol a gefnogir gan y tîm Hyfforddi Swyddi. Mae llwyddiannau hyd yma yn cynnwys:

  • Un ar ddeg o bobl mewn cyflogaeth a delir yn awr a phum lleoliad arall yn cael ei ystyried. 
  • Penodwyd derbynnydd sy'n gwirfoddoli yng Nglanrafon, a allai fod yn swydd â thâl yn y dyfodol. 
  • Mae dau o bobl a oedd yn cael eu cefnogi'n flaenorol yn y caffis cyfleoedd gwaith bellach yn gwirfoddoli yng nghaffi Ysbyty Glannau Dyfrdwy. 
  • Partneriaeth newydd gyda Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) i ddarparu cymorth i brosesu ac ailwerthu cyfraniadau i Siopau Elusen.
  • Cynllunio ar gyfer dechrau rhaglen gyflogaeth newydd a gefnogir, 'Chwilio am Brosiect”, mewn partneriaeth â Grwp Tai Pennaf a Choleg Cambria. 

HFT Glanrafon 09.jpgDywedodd Andrew Horner, Cyfarwyddwr yr Isadran Hft y Gogledd:

“Yn Hft rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl gydag anableddau dysgu i fyw y bywyd gorau bosibl. Mae’r bartneriaeth newydd cyffrous hwn gyda Chyngor Sir y Fflint wedi rhoi cyfle i ni gyfuno ein arbenigedd i wella ansawdd cymorth a ddarperir a darparu cyfleoedd i bobl i fod yn rhan o brofiadau ystyriol ac ymgysylltiol.  Gyda’n gilydd rydym wedi gweithio’n galed i wneud y gwasanaeth yn llwyddiannus ac rydym yn falch o allu rhannu cyflawniadau a wnaethpwyd hyd yma, fel yr ydym yn nodi diwedd blwyddyn gyntaf cynhyrchiol o'r bartneriaeth. Rydym yn falch bod Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i'n cefnogi i ddarparu canlyniadau cadarnhaol i’r pobl yr ydym yn eu cefnogi ac i adeiladu’r cyfleuster “Hwb Cyfle” modern a newydd a fydd yn ein caniatáu i barhau i adeiladu gwasanaeth sydd yn cefnogi pobl i fyw gyda mwy o ddewis ac annibyniaeth."