Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lansio Llwybr Treftadaeth newydd mewn tref yn Sir y Fflint 

Published: 11/03/2019

The Heritage Trail Flint 15.jpgMae Menter Treftadaeth Treflun y Fflint wedi lansio ei Lwybr Treftadaeth arloesol yn llyfrgell y Fflint yn ddiweddar. 

Mae Menter Treftadaeth Treflun y Fflint (THI) yn brosiect partneriaeth rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref y Fflint a Chadw. 

Mae’r Llwybr Treftadaeth yn defnyddio dulliau digidol a thraddodiadol i ddod â straeon treftadaeth y Fflint i gynulleidfa ehangach. Roedd y gymuned leol yn cyfrannu’n weithgar at y prosiect, gyda haneswyr lleol yn cynghori ar gynnwys, preswylwyr eraill yn darparu lluniau a grwpiau, gan gynnwys Cymdeithas Hanes y Fflint, Undeb Mamau y Fflint, Grwp Llyfrgell y Fflint a WI y Fflint ac Oakenholt, yn mwynhau gweld y ffilmiau CGI ar wahanol gamau eu datblygiad. 

Mae llyfryn lliw 56 tudalen wedi’i gynhyrchu sy’n cyflwyno hanes y dref ac yn tynnu sylw at bwyntiau allweddol o ddiddordeb o’r arfordir i ganol y dref.  Dywedodd David Hanson, AS, a ysgrifennodd ragair y llyfryn: 

 “Mae’r Fflint yn dref llawn hanes, a bydd lansio’r Llwybr Treftadaeth newydd ar gyfer y dref yn helpu i ddod â’r hanes hwn yn fyw.  Rwy’n falch iawn mai fi gafodd ysgrifennu’r rhagair i’r llyfryn ac rwy’n gwybod y bydd y Llwybr Treftadaeth yn rhoi hwb i fusnesau yn y Fflint ac yn adfywio balchder pobl yn ein tref.  

“Hoffwn longyfarch pob un am eu gwaith diflino wrth wneud y prosiect hwn yn realiti.    Mae gwybodaeth pob un a fu’n rhan yn y prosiect yn amlwg, a bydd yn sicrhau bod hanes y Fflint yn dod yn rhan annatod o’i ffyniant yn y dyfodol.”

Mae’r cyhoeddiad am ddim ar gael o Lyfrgell y Fflint. 

The Heritage Trail Flint 18.jpgMae llwybr digidol y gellir ei lawrlwytho ar gael hefyd.  Mae hyn yn cynnwys elfennau ychwanegol megis adluniad CGI (delweddau wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiadur), lluniau 'ddoe a heddiw' a nifer o glipiau sain a gemau hwyl. Mae disgyblion Ysgol Cornist Park yn cynnal prynhawn i rieni i ddangos sut mae'r llwybr digidol yn gweithio. I lawrlwytho'r llwybr chwiliwch am 'Flint, North East Wales' yn yr App Store neu Google Play. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Mae'r gwaith a gyflawnwyd gan Fenter Treftadaeth Treflun yn syfrdanol ac mae ei weithredu fel hyn yn nodedig.  Bydd yn galluogi preswylwyr a thwristiaid i ddarganfod a mwynhau hanes cyfoethog y Fflint.  Mae’n wych gweld bod myfyrwyr St Richard Gwyn ac Ysgol Cornist Park wedi cynorthwyo i ddatblygu’r llwybr trwy dynnu lluniau, cynhyrchu gwaith celf a chyfweld pobl. 

Mae’r llwybr, ynghyd â’r gwaith adfywio arall a wnaed yn y dref, am roi'r Fflint ar y map”. 

Mae tair ffilm wedi'u cynhyrchu yn dangos y dref mewn gwahanol gyfnodau: 1300, 1770 a 1905, gan ddefnyddio CGI. Mae’r llyfryn a’r llwybr digidol yn defnyddio sawl delwedd lonydd o'r ffilmiau. Mae’r ffilmiau ar gael i’w gweld ar wefan twristiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru: http://www.northeastwales.wales/things-events-holidays-break-ideas-within-corner-north-wales/flintshire/flint/ neu drwy chwilio am Dextravisual ar Youtube. 

The Heritage Trail Flint 22.jpgMae THI y Fflint, sydd wedi gorffen yn awr, wedi cynnig grantiau i adfer strydlun hanesyddol y dref ac i ganfod defnyddiau newydd ar gyfer adeiladau sydd wedi bod yn wag ers peth amser sydd â chysylltiad treftadol. Mae cyfanswm o 24 o adeiladau wedi elwa o gymorth gan y cynllun a oedd yn cynnwys Eglwys y Santes Fair, Neuadd y Dref y Fflint a’r Hen Lys. Mae nifer yn credu bod y cynllun wedi bod yn hynod lwyddiannus yn y Fflint ac mae wedi cyflawni ei nod wreiddiol o adfer rhannau o strydlun hanesyddol y dref a dod ag adeiladau gwag allweddol yn ôl i ddefnydd cynaliadwy.