Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg

Published: 14/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo Strategaeth bum mlynedd Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg cyn ei chyhoeddi a’i gweithredu.  

Mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg, gan adeiladu ar sylfeini cynnal Eisteddfod yr Urdd yn 2016.  Bydd y Strategaeth hon yn cefnogi ac yn ategu mentrau eraill sydd eisoes ar waith, gan gynnwys: 

  • Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) y Cyngor sy’n ceisio cynyddu nifer y dysgwyr sy’n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol “Mwy na Geiriau”, sy’n ceisio sicrhau mwy o wasanaethau gofal cymdeithasol Cymraeg.
  • Strategaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.  

Mae Safon 145 Safonau’r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor baratoi Strategaeth Hyrwyddo bum mlynedd a'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor.  Mae'r Strategaeth yn nodi sut y gall y Cyngor weithio gydag asiantaethau partner ac eraill yn y gymuned, fel Cynghorau Tref a Chymuned a busnesau i hyrwyddo'r Gymraeg.  Bydd hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, yn benodol, y nod i gael “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu”.

Ar ôl ymgynghori, mae’r Cyngor wedi addasu ei ymrwymiad i gynyddu lefel bresennol y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn ystod y cyfnod hwn, o 13.2% (19,343 o bobl) i 15% (21,891 o bobl) yn lle 13.6% (20,000 o bobl), sef y ganran a gynigiwyd cyn ymgynghori. 

Mae hyn gyfwerth â chynnydd o tua 2,548 o siaradwyr Cymraeg (sy'n hyn na thair oed) dros y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn cyfrif y cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg fel sydd wedi'i nodi yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ogystal â chynnydd yn nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

Bydd Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg hefyd yn cyfrannu at Gynllun Lles y Cyngor.  

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol:

“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i’r Strategaeth bum mlynedd hon i Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg.  Mae gennym eisoes bolisi ar gyfer y Gymraeg yn y gweithle i sicrhau ein bod yn codi proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a’r cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith.

“Bydd gweithredu’r Strategaeth hon yn ein cefnogi i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog.  Mae hefyd yn dweud yn gadarn, yn fewnol ac yn allanol, bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi a’i bod o fantais wrth weithio.”