Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Growing Places yn helpu pobl i ddatblygu

Published: 14/03/2019

Growin Places 03.jpg

Mae Growing Places yn un o wasanaethau cymorth Iechyd Meddwl Cyngor Sir y Fflint. 

Wedi’i leoli yn Shotton, mae’n cefnogi pobl mewn amgylchedd diogel i fod yn fwy hyderus a datblygu sgiliau a chymwysterau ar gyfer gwaith.  Mae Growing Places yn wasanaeth garddio cymunedol, sydd hefyd â rhandir a thwnelau polythen sy'n cael eu defnyddio i dyfu a photio planhigion. 

Ar ymweliad diweddar, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:

 “Roedd hi’n wych gweld y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud gan Growing Places. Mae’r gwasanaeth yn werthfawr iawn i aelodau’r tîm a’u teuluoedd.

 “Dyma enghraifft arall o’r holl ofal cymdeithasol rhagorol sydd ar gael yn Sir y Fflint sydd, yn anffodus, wedi diflannu o ardaloedd eraill yn y DU. Rydw i’n falch ein bod ni yn Sir y Fflint wedi parhau i weld pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl sy’n hwylus i bobl, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol cenedlaethol sydd arnom.”

 

Growin Places 04.jpgYchwanegodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

 “Mae hi mor braf gallu dod i weld cyfleuster mor hyfryd.  Rydw i’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i ariannu gwasanaethau mor bwysig ar gyfer rhai o’n trigolion mwyaf bregus. Mae gallu gweithio mewn lle mor ddiogel yn caniatáu i bobl fagu hyder. Fel rhan o dîm, maen nhw’n teimlo eu bod o werth.   

“Ar yr un pryd, maen nhw’n dysgu sgiliau gwerthfawr ac, fel busnes garddio llewyrchus, mae Growing Places yn cynnig cyswllt â chyfleoedd i wirfoddoli a pharhau i addysg bellach.  Mae’n gam hynod werthfawr i unigolion fagu hyder, cymhelliant a phrofiad ac, yn y pen draw, i fynd ymlaen i wella."

Mae tri gweithiwr llawn amser sy'n cefnogi'r unigolion i ddatblygu eu sgiliau i gadw gardd, meithrin blodau, planhigion a llysiau a thasgau gweinyddol. Mae hefyd rhywfaint o weithgarwch gwaith coed ar wahanol adegau yn y flwyddyn.

Dywedodd Rheolwr Growing Places, Jacqueline Vaughan-Thomas:  

 “Mae hwn yn adnodd hyfryd – yn ogystal â’n gwasanaeth garddio, rydyn ni’n defnyddio'r ffrwythau a'r llysiau rydyn ni'n eu tyfu i annog pobl i fwyta'n iach.  Rydyn ni’n cynnal sesiynau coginio rheolaidd yn y gegin Growing Places lle mae aelodau’r tîm yn helpu i baratoi’r bwyd ac yna’n eistedd gyda’i gilydd i fwynhau’r pryd mewn awyrgylch cymdeithasol."