Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cod Ymarfer cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi

Published: 14/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi nodi’r cynnydd mewn perthynas â gweithredu’r Cod Ymarfer Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a chymeradwyo datganiad ar gaethwasiaeth fodern. 

Nod Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru yw gwella arferion caffael yng Nghymru a sicrhau gwell budd cymdeithasol wrth wario arian cyhoeddus.  Mabwysiadwyd y Cod gan Sir y Fflint fis Mehefin y llynedd. 

Mae’r Cod yma'n dod o fewn arferion a chredoau’r Cyngor ei hun, fel sefydliad sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn foesegol, ac wedi’i ymrwymo i fynd i’r afael â:

  • chaethwasiaeth fodern
  • cosbrestru
  • hunangyflogaeth ffug 
  • defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau 
  • talu’r cyflog byw

Mae’r Cod yn cynnwys 12 o ymrwymiadau (sy’n cyfateb i 34 o gamau gweithredu) sy’n ceisio atal arferion cyflogaeth anfoesegol. O’r 34 o gamau gweithredu, mae 21 wedi’u cwblhau. Un o’r camau gweithredu sydd heb eu cyflawni hyd yma yw cymeradwyo datganiad blynyddol ar gaethwasiaeth fodern sy'n disgrifio sut y bydd y cyngor yn dileu arferion anfoesegol o’r fath. Bydd gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r datganiad hwn yn y cyfarfod. 

Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae Sir y Fflint yn ymhyfrydu yn ei egwyddorion sydd wrth wraidd y Cod hwn. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i weithredu’r ymrwymiadau hyn ers i ni fabwysiadu’r Cod fis Mehefin y llynedd. 

“Fel sefydliad sy’n gyfrifol yn gymdeithasol a chorff cyhoeddus moesegol, rydym yn ceisio defnyddio ein gwariant ar waith, nwyddau a gwasanaethau i hyrwyddo'r economi leol, a thrwy ddefnyddio buddion cymunedol, achosion yr ydym yn eu cefnogi, megis darparu hyfforddiant a phrentisiaethau.  Mae’r Cyngor yn croesawu’r ymrwymiadau o fewn y cod ymarfer, a'r cyfleoedd maent yn eu cynrychioli, i sicrhau ymhellach fod ei wariant caffael yn cefnogi ei nodau a'i werthoedd."

Mae'r Cyngor eisoes â threfniadau ar waith drwy ei Reolau'r Gweithdrefn Contract ac arferion caffael, i atal ei gyflenwyr rhag defnyddio llawer o’r arferion hyn. Mae'r Cod yn estyniad ar arfer cyfredol, ond mae’r ymrwymiadau gofynnol o dan y Cod yn cefnogi gwerthoedd ac egwyddorion y Cyngor ei hun.