Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Published: 19/03/2019

Roedd diddordeb busnesau lleol Sir y Fflint yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP), yn amlwg mewn digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr diweddar.  

Mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, croesawodd y datblygwyr, Wates Residential North, fusnesau lleol i’w swyddfeydd yn yr Wyddgrug i ddarganfod ffyrdd iddynt fod yn rhan o weithio ar y cyngor newydd ac adeiladu tai fforddiadwy ar draws y sir.  

Mynychodd dros 20 o wahanol fusnesau lleol, gyda nifer yn cael eu hystyried ar gyfer cytundebau ar y gwahanol safleoedd.  Mae Wates Residential North yn awyddus i gyflogi busnesau a phobl leol er mwyn hybu’r economi leol a darparu sgiliau a phrofiad i’r gweithlu lleol.

Estynnwyd gwahoddiad i bob maes o’r diwydiant adeiladu gan gynnwys gwaith daear, gosodwyr brics, towyr, gweithwyr plymio a thrydanol, plastrwyr, seiri, paentwyr, tirlunwyr a ffenswyr.  Mynychodd tîm Datblygu Busnes y digwyddiad hefyd, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Sir y Fflint mewn Busnes.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

“Mae nifer o fusnesau lleol eisoes wedi elwa o weithio gyda ni, o ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Rydyn ni'n awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio busnesau lleol.”

I gael rhagor o fanylion cysylltwch â: Mick Cunningham - Wates Residential North, Arweinydd Fframwaith - 07795 520727 neu Kate Catherall, Cyngor Sir y Fflint, Swyddog Datblygu Busnes - kate.p.catherall@flintshire.gov.uk - 01352 703221.

LLuniau o'r digwyddiad

 

_DSC6379.JPG_DSC6436.JPG_DSC6468.JPG