Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sgam Treth y Cyngor

Published: 20/03/2019

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd o sgam ad-daliad Treth y Cyngor a gaiff ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Mae sgamwyr yn cysylltu â phreswylwyr i'w hysbysu eu bod yn y band treth cyngor anghywir a’u bod felly’n gymwys am ad-daliad. Maent yn gofyn am fanylion eich banc a/neu fanylion eich cerdyn, ac mae’n ymddangos eu bod rhywsut neu’i gilydd wedi cael gafael ar fanylion cyfeiriadau a bandiau treth y cyngor, ac felly mae eu honiadau’n ymddangos yn ddilys. Nid ydynt yn gysylltiedig â Chyngor Sir y Fflint mewn unrhyw ffordd.  Os ydych yn derbyn galwad ffôn o’r fath, rhowch y ffôn i lawr, os ydynt yn cysylltu â chi drwy neges destun, peidiwch ag ymateb.  Os bydd y Cyngor yn darganfod bod ad-daliad yn ddyledus i chi, byddant yn ysgrifennu atoch gyda phennyn y Cyngor ar frig y llythyr er mwyn rhoi cyfarwyddiadau i chi o ran beth i’w wneud, neu os ydych chi ar eu system e-bost, byddant yn anfon e-bost atoch. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch eich Treth Cyngor, cysylltwch â’r Cyngor ar 01352 704848. Peidiwch â rhannu eich manylion banc/cerdyn â dieithriaid sy'n cysylltu â chi yn ddirybudd.