Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Blynyddol Sir y Fflint

Published: 26/03/2019

Ydych chi’n chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn â sgiliau a hyfforddiant? 

Os felly, dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i wella eich siawns o gael gwaith.

Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 10am a 2pm, dydd Iau 11 Ebrill 2019. 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:

“Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad ardderchog hwn yn denu cannoedd o bobl.  Mae wedi cael ei ddatblygu i gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint a dod â chyfleoedd am swyddi a phrentisiaethau i bobl leol gan roi cyfle i gyflogwyr gyfarfod ag ymgeiswyr wyneb yn wyneb.”   

Bydd gweithdai ac arddangosiadau rhyngweithiol yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd a bydd cyngor ymarferol ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i swydd.  Mae hyn yn cynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru yn ogystal â "Gorsaf Geisiadau”.  Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol hefyd.   

Gall cynrychiolwyr o Glwb Menter Cymunedau am Waith a Mwy eich cynghori ar gyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’ch cefnogi os hoffech chi sefydlu eich busnes eich hun.   

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647 neu Janiene Davies/Nia Parry yn Cymunedau Dros Waith ar 01352 704430.