Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailosod wyneb ffordd B5125 Chester Road rhwng Brychdyn a Phenarlâg

Published: 26/03/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi ei fod wedi sicrhau arian er mwyn ailosod wyneb ffordd ac ymgymryd â gwaith cysylltiedig ar B5125 Chester Road rhwng Brychdyn a Phenarlâg rhwng 18.30pm a 05.00am yn cychwyn dydd Llun 1 Ebrill.  

Mae angen cau’r ffordd dros nos er mwyn ymgymryd â’r gwaith hanfodol o osod wyneb ffordd ac mae’r gwaith yn debygol o gymryd pythefnos i’w gwblhau.  Bydd y ffordd ar gau rhwng ei chyffyrdd â chylchfan A5104 Brychdyn a Moor Lane a bydd y traffig a effeithir yn cael ei ddargyfeirio ar hyd A5104 tuag at Benymynydd, A550 a A550 Tinkersdale.

Meddai Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:  

“Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol presennol, rydym yn falch ein bod wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith gwella pwysig ac angenrheidiol hwn i’n ffyrdd sy’n dangos pa mor bwysig yw cynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd i’r Cyngor hwn.

“Mae’r Cyngor a’r contractwr sy’n ymgymryd â’r gwaith, Roadway Civil Engineering Ltd, yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac amhariadau a achosir o ganlyniad i’r gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn a bydd y contractwr yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl.”