Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eich llwybr at yrfa newydd

Published: 27/03/2019

Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn achubwr bywydau?

Mae Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint a chwmni hamdden Aura wedi creu cyfle ichi gael yr hyfforddiant a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer hynny. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod mwy, cofrestrwch ar gyfer y diwrnod gwybodaeth ac asesu a gynhelir ddydd Gwener 12 Ebrill, 9am-12.30pm ym Mhafiliwn Jade Jones yn y Fflint – mae lleoedd yn brin a’r cyntaf i’r felin gaiff falu.  Bydd arnoch angen dod â’ch gwisg nofio eich hun yn ogystal â chrys-t a siorts.

Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle, cysylltwch â: Janiene Davies ar 01352 704434 neu janiene.davies@flintshire.gov.uk