Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Cyfarfod yr Artistiaid - Gweithiau Celf Cyhoeddus ar Flaendraeth y Fflint - Dydd Sadwrn 6ed o Ebrill 2.30-4.30 yn Llyfrgell y Fflint

Published: 02/04/2019

 

Fel rhan o fenter adfywio'r Fflint, gwahoddodd y Rheolwr Prosiect curadurol Addo a Chyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth gyda Cadw, ac amrywiaeth o bartneriaid lleol, geisiadau gan artistiaid profiadol i gynhyrchu gweithiau celf ar gyfer y dref. 

Hysbysebwyd dau gomisiwn; Comisiwn Un – gwaith celf ‘eiconig' i gael ei leoli ar Flaendraeth y Fflint. Comisiwn Dau – Llwybr Celf yn cysylltu’r blaendraeth gyda’r dref fel rhan o fenter adfywio ehangach y tirlun unigryw a chymhellol hwn. 

Dewiswyd pum artist i'w rhoi ar y rhestr fer i gynhyrchu dyluniadau cychwynnol ar gyfer gwaith celf eiconig ar y blaendraeth. Bydd syniadau cychwynnol yr artistiaid yn ystyried ac yn ymateb mewn dull sensitif i’r nodweddion arwyddocaol cenedlaethol  fel ardal heneb cofrestredig Castell Fflint. Dewiswyd pob un o’r artistiaid yn sgil eu brwdfrydedd ar gyfer y briff a’u gallu i gydweithio ag eraill wrth ddatblygu a chyflawni’r gweithiau celf. Bydd y syniadau cychwynnol, yn cael eu haddasu ymhellach a’u hesblygu, ac ar ddangos i’r cyhoedd yn Llyfrgell y Fflint rhwng 1 a 6 Ebrill. Caiff trigolion lleol gyfle i roi barn ar y dyluniadau cychwynnol a chyfarfod yr artistiaid i drafod eu syniadau mewn digwyddiad arbennig rhwng 2.30-4.30yp dydd Sadwrn 6 Ebrill yn Llyfrgell y Fflint.  Bydd y sesiwn yn gyfle I weld dyluniadau cychwynnol o’r hwb cymnedol newydd arfaethedig ar gyfer y blaendraeth a fydd yn cynnwys cyfleusterau pêl-droed, rygbi a chlwb cymdeithasol, canolfan i ymwelwyr a Gorsaf y Bad Achub.

Yr artistiaid ar y rhestr fer ydi: 

Manon Awst, mae hi’n artist ac ymchwilydd sydd wedi’i lleoli yng Nghaernarfon, sydd wedi creu cerfluniau safle-benodol a gosodiadau ar draws Ewrop manonawst.com.

Mae Howard Bowcott howardbowcott.co.uk wedi’i leoli yng ngogledd Cymru ac mae’n gweithio ar brosiectau celfyddydau ac adfywio trwy gydol y DU ac ymhellach i ffwrdd. 

Mae Richard Harris richardharrissculpture.co.uk yn gwneud cerfluniau amgylcheddol enfawr ar safleoedd ar draws y byd ac mae wedi’i leoli yng nghanolbarth Cymru. 

Mae John Merril johnmerrill.org wedi’i leoli yng ngogledd Cymru ac mae’n cynhyrchu gweithiau celf cyhoeddus ar raddfa fawr sydd yn ymateb i dirluniau naturiol. 

Mae Rich White counterwork.co.uk yn gwneud gosodiadau, sydd yn edrych ar y berthynas sydd yn datblygu rhwng pobl a’u hamgylchedd. 

I helpu i wella'r cysylltiad a naws rhwng y blaendraeth a chanol y dref, dewiswyd Grennan & Sperandio ar gyfer Comisiwn Llwybr Celf y Fflint. Mae’r ddau wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru ac Unol Daleithiau America, ac maent yn hysbys am eu gweithiau celf perthynol, cymdeithasol a chydweithredol. Ffocws eu gwaith ydi defnyddio straeon a chymeriadau lleol. 

Dewisodd y grwp llywio adfywio a phartneriaid artistiaid a ddangosodd parodrwydd i drochi eu hunain ym mywyd a diwylliant yr ardal a chroesawu’r cyfle i weithio gyda grwpiau, cymunedau, busnesau lleol a'r tîm prosiect adfywio yn ehangach (yn cynnwys penseiri datblygiad y blaendraeth) fel rhan annatod o’u hymarfer. 

I gael rhagor o wybodaeth am gomisiwn y Gwaith Celf Cyhoeddus a chomisiwn y Llwybr Gelf, cysylltwch â Gwenno Eleri Jones gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk neu Tracy Simpson tracy@addocreative.com