Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Landlord yn Sir y Fflint wedi’i erlyn yn llwyddiannus

Published: 05/04/2019

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord sector breifat o Sir y Fflint am sawl trosedd dan ddeddfwriaeth tai sydd wedi'i llunio i warchod tenantiaid yn y sector rhentu preifat.

Ym mis Gorffennaf 2018 archwiliodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd dy amlfeddiannaeth a chanfod nifer o ddiffygion gan gynnwys dim un larwm tân yn gweithio, dim drysau tân, offer trydanol diffygiol a chyfleusterau ystafell ymolchi annigonol. Roedd Mr Roberts wedi anwybyddu ceisiadau dan Reoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 i gyflwyno tystysgrifau profion nwy a thrydan.

Cyflwynwyd Hysbysiad Gwella dan Ddeddf Tai 2004 ac, yn dilyn ymweliad arall, gwelwyd nad oedd gofynion yr Hysbysiad Gwella wedi’u bodloni a bod y boeler nwy wedi’i gondemnio am resymau diogelwch.

Ar 26 Mawrth yn Llys Ynadon Wrecsam, plediodd Glyn Trevor Roberts yn euog i bob un o'r chwe throsedd yn ymwneud â 7 Connaught Avenue, Shotton. Roedd y troseddau hyn yn cynnwys methu â chydymffurfio â Hysbysiad Gwella, methu â chofrestru eiddo ar rent, methu â chael trwydded i reoli eiddo ar rent a methu â chyflwyno tystysgrifau profion nwy a thrydan.

Yn y ple lliniaru, clywodd y llys fod Mr Roberts mewn trafferthion ariannol ac yn y broses o werthu’r eiddo o fewn y chwe wythnos nesaf, ac felly na fydd wedyn yn landlord.

Dyfarnwyd Mr Roberts yn euog o bob un o’r chwe throsedd a chafodd ddirwy o £600, a’i orchymyn i dalu cyfraniad o £200 tuag at gostau Cyngor Sir y Fflint. Wrth ei ddedfrydu, rhybuddiwyd Mr Roberts bod torri deddfwriaethau o’r fath yn gallu bod yn drychinebus ac y byddai’r dirwyon wedi bod yn fwy o lawer oni bai am ei sefyllfa ariannol.

Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi Cyngor Sir y Fflint:

"Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges glir nad yw Cyngor Sir y Fflint yn goddef pobl sy’n methu rheoli tai amlfeddiannaeth yn briodol. Mae’r ddeddfwriaeth hon wedi’i llunio i warchod iechyd, diogelwch a lles rhai o’n preswylwyr mwyaf diamddiffyn. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat mewn cyflwr da, yn cynnwys y cyfleusterau angenrheidiol ac yn cael eu rheoli’n briodol."

 

P1030916 resized.jpgP1030922 resized.jpgP1040234 resized.jpg