Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Tai Arbenigol

Published: 11/04/2019

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn nes ymlaen yn y mis, bydd gofyn i aelodau nodi a chefnogi gwaith y Grwp Tai arbenigol i leihau’r nifer o bobl ar y gofrestr tai arbenigol.  

Mae tai arbenigol, a elwir hefyd yn dai hygyrch yn bodloni anghenion grwp penodol o bobl gan gynnwys: pobl gydag anableddau, yn bennaf anableddau corfforol; a phobl hyn sydd yn llai symudol. 

Trwy fuddsoddi yng nghartrefi pobl a’u haddasu, rydym yn rhoi mwy o annibyniaeth ac urddas i'n preswylwyr. 

Mae gan y Cyngor Gofrestr Tai Arbenigol er mwyn cadw rhestr o’r holl aelwydydd lle mae preswylydd ag anabledd corfforol yn byw sydd angen ty hygyrch. 

Dywedodd Prif Swyddog Tai Cyngor Sir y Fflint, Neal Cockerton: 

“Mae yna 52 aelwyd ar y Gofrestr Tai Arbenigol ar hyn o bryd. Yn ychwanegol, mae yna nifer sylweddol o aelwydydd ar Un Llwybr Mynediad at Dai sydd angen addasiadau lefel isel i’w galluogi i aros gartref.  Mae Sir y Fflint wedi cymryd y cam rhagweithiol o adolygu’r rhwystrau yma i sicrhau bod yr amseroedd aros am yr addasiadau lefel isel yn cael eu lleihau a bod mwy o bobl yn cael eu cynorthwyo a’u cefnogi i barhau i fyw gartref. 

“Trwy weithio gyda Chymdeithasau Tai partner ar y Grwp Tai Arbenigol rydym wedi llwyddo i ailgartrefu cyfanswm o 47 aelwyd mewn i lety mwy addas hyd yn hyn, ac wedi ail-leoli chwech arall dros dro, ac mae’n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus.” 

Nid yw’r niferoedd o aelwydydd sydd angen addasiadau lefel isel i’w heiddo i’w galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi wedi cael eu cofnodi gan y Grwp Tai Arbenigol hyd yn hyn. Fodd bynnag, mae’r Grwp ar fin cynnal adolygiad i adnabod dull mwy effeithiol a theg o fynd i’r afael â'r galw am gartrefi hygyrch.