Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ar Gynllun y Cyngor 2019/20

Published: 11/04/2019

Mae disgwyl i Ran 1 Cynllun y Cyngor 2019/20 gael ei gymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 19 Ebrill.

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi Cynllun blynyddol y Cyngor, sy’n cynnwys nodau ac uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer 2019/20.

Mae’r Cynllun wedi cael ei ddiwygio a'i adfywio.  Mae uwch-strwythur y cynllun yn parhau yr un fath â chynlluniau blaenorol ond nawr yn cynnwys thema ychwanegol ‘Diogel a Glân’ sy‘n gyfanswm o saith blaenoriaeth ac is flaenoriaethau perthnasol, yn hytrach na chwech. Mae’r saith blaenoriaeth yn cymryd golwg hir dymor ar brosiectau ac uchelgeisiau dros y tair blynedd nesaf.  Y rhain yw:

  • Cyngor sy’n Gofalu 
  • Cyngor Uchelgeisiol
  • Cyngor sy’n Dysgu
  • Cyngor Gwyrdd
  • Cyngor sy’n Cysylltu
  • Cyngor sy'n Gwasanaethu
  • Cymunedau Diogel a Glân 

Argymhellir bod Rhan 1 y Cynllun yn cael ei gymeradwyo gyda Rhan 1 a Rhan 2 (dogfen o fanylion y mesur a cherrig milltir) yn cael eu mabwysiadu gan y Cyngor Sir ym mis Mehefin.  

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, yr Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol: 

“Mae’r Cynllun yma’n nodi ein prif flaenoriaethau i gefnogi a gwella bywydau’r preswylwyr. Rydyn ni’n parhau hefo rhai o’n blaenoriaethau, er enghraifft, ehangu darpariaeth cartrefi fforddiadwy i breswylwyr sydd mewn angen; gwarchod pobl rhag tlodi; galluogi pobl i fyw'n annibynnol a byw'n dda gartref, gan osgoi achosion diangen o fynd i'r ysbyty; gweithio gyda phartneriaid i gynnal twf economaidd a chael mwy o gyfleoedd am waith a datblygu isadeiledd cludiant y sir.” 

“Yn ychwanegol at y blaenoriaethau hyn, rydyn ni’n bwriadu dal ati gyda'r gwaith i gefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, gwella'r amgylchedd naturiol ac annog mynediad at fannau agored a mannau gwyrdd.”

Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor: 

“Mae ein blaenoriaethau'n cael ei nodi ar ôl ystyriaeth ddwys. Rydym yn bwriadu cydbwyso bodloni anghenion cymunedau lleol gyda bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl Cymru. Mae gennym hanes blaenorol cadarn iawn wrth gyflawni ein uchelgeisiau o un flwyddyn i'r llall. Er y cyfnod anodd hwn yn ariannol, rydym yn parhau i anelu'n uchel, ac rydym yn bwriadu cael blwyddyn arall o berfformiad a chyrhaeddiad da ar draws y meysydd addysg, gwasanaethau cymdeithasol, tai, a’n set lawn o wasanaethau."

Bydd Cynllun terfynol y Cyngor ar gael ar y wefan cyn diwedd mis Mehefin.