Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint 

Published: 12/04/2019

Ymddeolodd y Cynghorydd Roberts ddwy flynedd yn ôl yn dilyn bron i 36 mlynedd yn dysgu'n bennaf mewn ysgolion cynradd.  Ymgymerodd â sawl rôl mewn ysgolion, gan orffen ei yrfa fel pennaeth dros dro. 

Mae wedi bod yn Gynghorydd Tref yn y Fflint ers 30 o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae wedi gwasanaethu fel Maer y Fflint deirgwaith, mae wedi gwasanaethu ar Gyngor Bwrdeistref Delyn, ac ers 1995, ar Gyngor Sir y Fflint. 

Mae wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Cyngor yn ogystal â Chadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid / Addysg Gydol Oes. Mae wedi bod yn Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid ers 2017. 

Ef yw Cadeirydd Grwp Llywio Ailddatblygu Tref y Fflint ac wedi bod yn Lywodraethwr mewn sawl ysgol yn ardal y Fflint. 

Mae’n ffanatig pêl-droed angerddol ac yn ddeilydd tocyn tymor Everton. 

Yng nghyfarfod y Cyngor ar 9 Ebrill, pan gafodd ei bleidleisio fel Arweinydd, diolchodd y Cynghorydd Roberts i'w gydweithwyr am eu cefnogaeth.  

Yn ei gyflwyniad, dywedodd y Cynghorydd Roberts:

“Mae’n rhaid i ni gofio mai busnes y Cyngor yw darparu gwasanaethau i'r 160,000 o drigolion sy'n byw yn Sir y Fflint.  

“Fel aelodau, mae’n rhaid i ni ail-ffocysu ein hunain fel Cyngor a chanolbwyntio ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.  Yn ogystal â hynny, mae'n rhaid i ni adfer yr ymddiriedaeth yn ein plith ni, ein swyddogion a'r cyhoedd. Rydym yn byw mewn cyfnod gwleidyddol cythryblus iawn, ond ein pryder ni yw bobl Sir y Fflint.  Felly gadewch i ni symud ymlaen er lles Sir y Fflint a chyflawni'r cyngor gorau posibl drwy gydweithio a chynnal ymddiriedaeth. 

“Mae’n rhaid i aelodau sicrhau bod talwyr y dreth gyngor yn cael y gwerth gorau am arian.  Mae’n rhaid craffu ar bob penderfyniad yn gadarn gan wneud newidiadau lle bo angen.  Mae’n rhaid i’r Cyngor weithio fel un corff gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ar draws y sir."

Caiff yr Arweinydd ei ethol yn flynyddol ym mhrif gyfarfod y Cyngor, ac yn y cyfarfod hwnnw, mae’r Arweinydd yn cyhoeddi eu Cabinet.  

Yn y cyfamser, bydd y Cynghorydd Roberts yn parhau fel Aelod Cabinet dros Addysg ac Ieuenctid ac yn rheoli materion y Cabinet gyda chwe aelod Cabinet. Ni fydd y portffolios yn newid, gan eithrio Cyllid a fydd yn cael ei reoli gan y Cynghorydd Roberts, a bydd y Cynghorydd Derek Butler yn ymgymryd â Thai yn ogystal â’i rôl fel Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd. 

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 7 Mai, bydd y Cabinet yn parhau fel arfer am y 12 mis canlynol.