Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Llwyddiant Ffair Swyddi 

Published: 15/04/2019

Mynychodd dros 800 o bobl ddigwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ddoe (dydd Iau 11 Ebrill). 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn ddiolchgar am y cydweithio rhwng Cymunedau am Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith ac Aura Leisure.  Roedd y Ffair Swyddi wedi’i hanelu at oedolion a phobl ifanc sy’n chwilio am waith a bu’n gydweithrediad llwyddiannus arall.

Roedd 76 o stondinau yn y digwyddiad gan gynnwys cyflogwyr a oedd â swyddi gwag, cyfleoedd hyfforddi, cyfleoedd gwirfoddoli a chefnogaeth gyffredinol i ddychwelyd i’r gwaith.  

Roedd y digwyddiad yn fwy rhyngweithiol eleni wrth i bartneriaid adeiladu’r Cyngor redeg cornel adeiladu ryngweithiol, roedd gweithdai “mae’r argraff gyntaf yn cyfrif” yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd, yn ogystal â gorsaf ymgeisio a phwynt gwirio CVs a oedd yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd trwy gydol y digwyddiad.

Mynychodd myfyrwyr o ysgolion uwchradd a cholegau lleol i ganfod mwy am opsiynau gyrfaol a phrentisiaethau sydd ar gael.   

Mae adborth darparwyr (sefydliadau addysg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli ac ati) yn dangos bod safon yr ymgeiswyr a lefel yr ymgysylltu yn uwch na’r llynedd, gyda mwy o gyfleoedd i gael sgyrsiau un-i-un.   Oherwydd safon uchel y mynychwyr, roedd ar rai cyflogwyr eisiau cyfweld â nhw yn y fan a’r lle. 

Yn ogystal â gwneud cais am swyddi gwag roedd ceiswyr gwaith yn gallu cwrdd â chyflogwyr, darparwyr addysg a sefydliadau cefnogi eraill a gofyn cwestiynau iddynt. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

“Unwaith eto, bu’r digwyddiad rhyngweithiol hwn yn llwyddiant ysgubol a rhoddodd gyfle i’r nifer uchaf erioed o fynychwyr i gwrdd â chyflogwyr, sefydliadau addysg ac asiantaethau cymorth.   

“Mae’r niferoedd wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn a gyda thros 800 o bobl, hwn oedd y digwyddiad mwyaf erioed.  Dywed cyflogwyr wrthym bod y digwyddiadau hyn a gynhelir gan Gyngor Sir y Fflint yn brofiad positif iddyn nhw.   Mae’n hanfodol bod busnesau yn denu ac yn recriwtio’r bobl iawn ar gyfer eu swyddi.   Mae digwyddiadau fel yr un yma yn gyfle iddyn nhw wneud hynny.”  

 

Deeside Jobs Fair 02.jpg Deeside Jobs Fair 04.jpg
Deeside Jobs Fair 07.jpg Deeside Jobs Fair 08.jpg
Deeside Jobs Fair 09.jpg Deeside Jobs Fair 14.jpg