Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dragons’ Den Cymru
Published: 26/11/2014
Yn ddiweddar, manteisiodd saith entrepreneur brwdfrydig ar arbenigedd Dreigiau
Sir y Fflint.
Roedd pumed digwyddiad Dragons’ Den y sir yn rhan o Siop Wybodaeth Mentrau
Cymunedau yn Gyntaf yng Ngholeg Cambria, Cei Connah.
Roedd y Dreigiau yn cynnwys Askar Sheibani, Prif Weithredwr Comtek, Christine
Sheibani, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Comtek, Mike Scott o Mike Scott
Associates, Dave Fields, Ymgynghorwyr a Mentoriaid Busnes Mentrau Bach a
Chanolig DFS4, ac Adam Butler o Easy On Line Recruitment.
Ochr yn ochr â’r digwyddiad Dragons’ Den cafwyd Arddangosfa Entrepreneur gyda
detholiad o fusnesau bychain newydd sy’n aelodau o Glwb Menter Sir y Fflint ac
sydd wedi eu cefnogi au mentora i roi eu syniadau busnes ar waith.
Y busnesau hynny oedd:
So Taraesque (Tara Hughes, ffotograffydd portreadau arbrofol sydd wedi bod yn
aelod rheolaidd or clwb ers ei gychwyn ym mis Ionawr 2013).
Yarn & Scissor Crafts (busnes Baerbel Persson-Hughes sy’n dysgu sgiliau crefft
i grwpiau o bob oed mewn modd cymdeithasol).
Say It With Style (Callum Kennedy-Hulme, awdur a bardd syn cynnig barddoniaeth
arbennig ac unigryw ar gyfer achlysuron arbennig).
Crwban Design (eitemau personol unigryw ar gyfer y cartref gan Rachel
Winstanley ).
Ddraig Dragon (printiau dylunio graffeg gan Tony Roberts ).
Taylors Dance Inspiration (menter newydd Lisa Francis syn rhoi cyfle i bobl,
gan gynnwys pobl anabl, i gael profiad dawns er eu lles cymdeithasol ac
emosiynol).
A Gaz Johnson, syn gwneud ffigurau i raddfa ac yn eu gwerthu ar-lein.
Cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan yr Arglwydd Barry Jones, Carl Sargeant AC,
Mark Tami AS, David Hanson AS, a chynghorwyr lleol, y Cynghorydd Paul Shotton
a’r Cynghorydd Ian Dunbar.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd:
“Roedd ein pumed digwyddiad Dragons’ Den yn llwyddiant ysgubol. Dyma un ffordd
y mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhoi cymorth ac ymrwymiad i bobl syn dechrau
busnes. Maen galonogol gweld yr amrywiaeth o fusnesau bach sy’n cychwyn yn yr
ardal.