Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Gwobrau Prentisiaeth

Published: 16/04/2019

Rhoddwyd clod i’r rhai sydd dan hyfforddiant gyda’r Cyngor yn Academi Sir y Fflint, sy’n gweithio tuag at eu prentisiaethau neu wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, mewn seremoni wobrwyo ddiweddar yn 6ed Glannau Dyfrdwy.

Bob blwyddyn, caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio gyda’r Cyngor.  Ar hyn o bryd, mae 52 o bobl dan hyfforddiant mewn gwahanol rannau o’r Cyngor, a 27 ohonynt ar fin cwblhau eu hyfforddiant eleni.  Ein nod yw rhoi pob cefnogaeth iddynt ar y daith o ddysgu a chael gwaith.

Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynychu Coleg Cambria ar ddiwrnodau astudio dros ddwy neu dair blynedd wrth gael eu hyfforddi a’u hasesu yn y gweithle.

Cafwyd cystadleuaeth mor glos eleni fel bod pedwar wedi cyrraedd y rownd derfynol ymhob categori.  Dyma restr o enillwyr y gwobrau a’r rhai a ddaeth yn ail: 

Iwan Rogers – Gwobr Hyfforddai’r Flwyddyn Sir y Fflint – yn ail, Jordan Tobbell, Vicky Thomas a Patrick Marsh.

Rhys Jones – Hyfforddai Sylfaen y Flwyddyn Sir y Fflint – yn ail, Ashley Luff, Catalina Slater a Gareth Allen.

Fe gawsant eu tlysau gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett; Prif Weithredwr Coleg Cambria, David Jones OBE; ac Is-gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Marion Bateman.

Gweithio ym maes cyllid y mae Iwan ac mae wedi dangos dro ar ôl tro ei fod yn medru canfod problemau a’u datrys o’i ben a’i bastwn ei hun, ac yntau ddim ond megis dechrau ar ei yrfa fel cyfrifydd.  Mae wedi pasio’i holl arholiadau ac ymhen blwyddyn fe fydd wedi ennill ei gymhwyster gyda Chymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu.  Wrth gyflwyno’r wobr iddo, dywedodd y Cynghorydd Bateman:

“Mae sgiliau cyflwyno Iwan wedi datblygu’n aruthrol, ac mae’n aelod gwerthfawr dros ben o’r tîm bellach.  Mae’n gwrtais ac yn glên iawn, ond mae hefyd yn graff ac yn deall manteision yr hyn y mae’n ei ddysgu, sy’n bwysig iawn.

“Mae’n gwybod beth yw gwerth ei holl waith caled, a sut wnaiff hynny roi hwb iddo yn y dyfodol.  Mae’n glod i’r Cyngor.”

Mae Rhys yn gweithio ym maes TG ac wedi gwneud cynnydd ardderchog yn ei flwyddyn gyntaf, heb fethu’r un terfyn amser ac wrth ddangos agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu.  Wrth gyflwyno’r wobr iddo, dywedodd y Cynghorydd Bateman:   

“Mae gan Rhys sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac mae bob amser yn rhoi gwybod i’r cwsmer beth sy’n digwydd. Mae’n gweithio’n dda mewn tîm hefyd, ac yn cyfathrebu â’r holl staff yn y gwahanol rannau o’r gwasanaeth TG.  Ni allech chi wir ofyn am fwy gan unrhyw brentis, ac mae’n aelod gwerthfawr o’r tîm – llongyfarchiadau mawr iddo.”

Meddai Colin Everett:

“Rydym yn falch iawn o’n cynllun prentisiaid yn Sir y Fflint, sy’n cael ei gydnabod gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda’n partneriaeth gyda Choleg Cambria.  Mae’r gyfradd sy’n llwyddo yn uchel iawn – mae 98% o’n hyfforddeion yn cael eu cyflogi un ai gan y Cyngor neu'n allanol ac mae rhai yn mynd i’r Brifysgol i barhau i astudio.”

Meddai David Jones: 

“Rydym wrth ein boddau’n cynnal y digwyddiad hwn yma. Mae’r coleg yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor i ddarparu cynllun prentisiaethau sy’n galluogi pobl o bob oed i ennill cymwysterau, gan ddysgu sgiliau ymarferol a chael profiad yn y gwaith.  Mor braf ydy gweld bod gan y Cyngor ddull mor gadarnhaol o hyfforddi a’u bod wedi llwyddo i benodi a datblygu hyfforddeion mor alluog.”

 

 

_DSC7541.jpg _DSC7636.jpg
                            _DSC7651.jpg                 _DSC7664.jpg