Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich dweud!

Published: 29/04/2019

Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop ddydd Iau, 23 Mai.

Mae gan breswylwyr 5.00pm, ddydd Mawrth, 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher, 8 Mai (5.00pm) ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dydd Mercher, 15 Mai (5.00pm)

Dywedodd Colin Everett, y Swyddog Canlyniadau Lleol:

“Mae’n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.

“Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.”

Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-lein https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 01352 702412.

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru:

https://www.sir-benfro.gov.uk/etholiadau-senedd-ewrop