Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau ar gyfer Pen-blwydd Mary yn 100

Published: 02/05/2019

Bu Is-Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman a’i Chymar, y Cynghorydd  Haydn Bateman yn helpu un o breswylwyr Sir y Fflint i ddathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar. 

Cynhaliwyd parti yn ddiweddar yng Nghartref Gofal Preswyl Wepre Villa yng Nghei Connah i ddathlu pen-blwydd Mary Brierly yn 100 oed.  Fe'i ganed yn Shotton ar 26 Ebrill, 1919 ac roedd ganddi 3 brawd a 2 chwaer. Roedd hi’n briod gyda George Henry am 60 mlynedd a chawsant 3 o blant, Patricia, Joan a David ac wyth o wyrion ac wyresau. Gweithiodd Mary yn hen weithfeydd Courtaulds yn y Fflint ac yna fel Prif Gogydd yn Ysgol Custom House Lane yng Nghei Connah nes iddi ymddeol yn 1982. Mae Mary yn mwynhau pobi a gweu. 

 _DSC8030.jpg

Yn y llun gyda Mary mae'r Cynghorydd Marion Bateman, Is-Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint a’i Chymar y Cynghorydd Haydn Bateman.