Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


RainbowBiz yn mynd o nerth i nerth

Published: 08/05/2019

RainbowBiz and Ginger Pixie.jpg

O'r chwith i'r dde: William Way, Darren Cook, Sarah Way, Melissa Cross, Sue Oliver, Mike Dodd

 

Mae menter gymdeithasol RainbowBiz wedi ymuno â Ginger Pixie Photography.

Gan ymateb i gais am wasanaethau ffotograffiaeth, aeth Sue Oliver o RainbowBiz i gyfarfod Mel Cross o Ginger Pixie Photography i drafod sut y gallent gydweithio. 

Fe soniodd Sue wrth Mel am yr holl wasanaethau a phrosiectau y mae RainbowBiz yn eu darparu ar draws Sir y Fflint a’r effaith mae’r rhain yn ei gael ar fywydau rhai o aelodau mwyaf unig y gymuned, a chynigiodd Mel i gefnogi gwasanaethau ffotograffiaeth am flwyddyn yn rhad am ddim. Meddai:

“Roedd hi’n arbennig iawn derbyn cynnig gwasanaethau proffesiynol gan fusnes masnachol sydd yn deall sut mae RainbowBiz yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sydd yn ymgysylltu â’n prosiectau. Bydd modd i ni gael lluniau proffesiynol sydd fawr eu hangen a’n cynorthwyo i hyrwyddo ein gwasanaethau i bobl sydd ddim yn ymwybodol ein bod yn bodoli ar hyn o bryd.”

Ers derbyn grant sefydlu gan Gyngor Sir y Fflint yn 2014, mae RainbowBiz wedi bod yn datblygu a chyflwyno prosiectau cymunedol, gan gael cefnogaeth gan Swyddog Menter Gymdeithasol Sir y Fflint, gan gynnwys: Digging Deeside, rhaglen rhandiroedd cymunedol sydd wedi ennill gwobrau, cynllun C Card sef hyfforddiant ymwybyddiaeth rhywiol i bobl ifanc, Grwp Arty Folk and Friendship, sydd yn cynnig cyfle i roi cynnig ar gelf a chrefftau tra’n gwneud ffrindiau newydd, gwyliau Mind and Body sydd yn cael eu cyflwyno bob chwarter yn Theatr Clwyd, sydd yn denu dros 50 o fanwerthwyr celf a chrefftau a 1,500 o ymwelwyr i’r theatr. 

Mae RainbowBiz hefyd yn rhedeg siop ddillad ethnig yng nghanol yr Wyddgrug o’r enw RainbowBiz Hippy Shop sydd wedi cael ei ddatblygu’n benodol i greu’r incwm sydd yn angenrheidiol i redeg y prosiectau cymunedol. 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygiad Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’n wych gallu dathlu’r cydweithio yma sy’n digwydd rhwng menter gymdeithasol a busnes masnachol, yn ogystal â chydnabod yr holl waith menter cadarnhaol arall sy’n digwydd yn Sir y Fflint. Mae’r Cyngor yn deall pwysigrwydd mentrau cymdeithasol yn yr economi lleol ac rydym yn cynnig ein cefnogaeth lawn drwy’r Swyddog Menter Gymdeithasol.”

Ers cael y cynnig o gefnogaeth am ddim mae Mel wedi ymweld â phrosiect Hippy Shop a Digging Deeside i dynnu lluniau proffesiynol.  Dywedodd:

“Bydd Ginger Pixie Photography yn dathlu ei bedwaredd flwyddyn mewn busnes yn fuan ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned eleni.  Allwn i ddim meddwl am sefydliad mwy ysbrydoledig i weithio â nhw’n agos a dwi’n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda'r merched a’u tîm trwy gydol 2019."