Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Y Cadeirydd yn hel pres

Published: 08/05/2019

Mae Cadeirydd presennol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Paul Cunningham a’i Gymar Mrs Joan Cunningham wedi cyflwyno sieciau i’w helusennau dewisol gyda chyfanswm o £14,468.

Ers cael ei ethol fis Mai diwethaf, mae’r Cynghorydd Cunningham wedi cefnogi Hosbis Ty’r Eos a Chymorth Canser Macmillan.  Derbyniodd pob elusen £6,000 yr un gyda £2,468 yn cael ei rannu ymysg elusennau eraill. 

Cyflwynodd y Cynghorydd Cunningham sieciau i gynrychiolwyr yr elusennau yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, gan ddod â diwedd llwyddiannus iawn i’w flwyddyn fel Cadeirydd.  

_DSC4072.jpgY Cynghorydd a Mrs Cunningham gyda Luke McDonald o Dy'r Eos, Eleri Brady o Macmillan a Debbie Barton o Dy’r Eos